Sgiliau Bwyd a Maeth i’r Rhai sy’n Darparu Gofal a Gwella Gofal Maeth ar gyfer Grŵp Cleientiaid
Lefel 2
Os ydych chi’n gweithio gydag oedolion hŷn yn y gymuned e.e. gofalwyr, cynorthwywyr nyrsio, cogyddion ac eraill sy’n gyflogedig neu’n gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal, dyma’r cwrs i chi. Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn perthynas â bwyd a maeth i oedolion hŷn, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed. Bydd yn eich cefnogi i wella’r ddarpariaeth bwyd a diod i bobl hŷn, sy’n bwysig ar gyfer sicrhau iechyd da ac i osgoi diffyg maeth. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu trosglwyddo gwybodaeth am faeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r oedolion hŷn yn eich gofal a’u teuluoedd.
Mae 7 sesiwn, a gyflwynir fel arfer fel un sesiwn yr wythnos am 7 wythnos. Gellir cyflwyno cyrsiau mewn 2 ffordd, naill ai:
- wyneb yn wyneb ar ffurf sesiwn addysgu grŵp wythnosol 2 awr o hyd mewn lleoliad cymunedol, gydag awr o waith cartref, neu
- sesiwn dysgu digidol hunangyfeiriedig 2 awr o hyd, gyda sesiwn grŵp rithwir wythnosol 1 awr o hyd gyda dietegydd (yn cael ei ddatblygu)
Mae’r sesiynau’n cwmpasu’r cynnwys canlynol.
Sesiwn | Cynnwys |
---|---|
Cyflwyniad | Cyflwyniad i’r cwrs a’r achrediad |
1 | Canllaw Bwyta’n Dda a sut mae’n berthnasol i bobl hŷn |
2 | Pwysigrwydd maeth da a’r maetholion allweddol |
3 | Diffyg maeth |
4 | Bwyd yn Gyntaf Ychwanegu egni a phrotein i fwydydd bob dydd Cymorth gyda bwyta ac yfed |
5 | Cynllunio bwydlenni |
6 | Gwelliannau gofal bwyd a maeth |
Mae’r unedau Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol i’r rhai sy’n Darparu Gofal a Gwella Gofal Maeth ar gyfer Grŵp Cleientiaid yn rhai lefel dau, a gyda’i gilydd maent yn werth dau gredyd (20 awr ddysgu dan arweiniad). Mae’r achrediad yn dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni, ac er mwyn derbyn credyd mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol, nid oes arholiadau na thraethodau i boeni amdanyn nhw, ond bydd gofyn i chi gyflwyno portffolio o dystiolaeth ar gyfer asesu. Mae mynychu’r sesiynau hefyd yn rhan bwysig o’r asesiad.
Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs a bydd cefnogaeth ar ôl y cwrs i’r rhai sydd am roi eu dysgu ar waith e.e. datblygu polisi bwyd ar gyfer eu lleoliad neu weithredu’r Canllawiau Arfer Gorau ar gyfer Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal ar gyfer Pobl Hŷn
Adborth gan gyfranogwyr
“Rydw i wedi dysgu sut i gyfnerthu prydau a diodydd”.
“Rydw i wedi mwynhau’r hyfforddiant yn fawr”.
“Wedi mwynhau’r cwrs – mae’n ddefnyddiol iawn fel cogydd mewn cartref gofal. Byddaf yn ei ddefnyddio wrth weithio gyda’r henoed”.