Sgiliau Maeth am Oes
Ynglŷn â Sgiliau Maeth am Oes®
Nod Sgiliau Maeth am Oes® yw gweithio gydag asiantaethau a sefydliadau partner i sicrhau bod pawb yng Nghymru â’r sgiliau, y cyfleoedd a’r hyder i gael mynediad at y bwyd y maent ei angen i gael iechyd da.
Ein nod yw gwneud hyn drwy ddarparu addysg a hyfforddiant maeth i staff a gwirfoddolwyr cymunedol; trwy gefnogi asiantaethau partner i wella’r ddarpariaeth bwyd a diod mewn lleoliadau cymunedol fel gofal plant, ysgolion a lleoliadau gofal oedolion hŷn a thrwy gefnogi cymunedau i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael deiet amrywiol a chytbwys. Gall hyn gynnwys sefydlu mentrau bwyd cymunedol a galluogi cymunedau i rannu’r pethau sy’n gweithio iddyn nhw.