Cyflwyno Dewch i Goginio i ysgolion Uwchradd

Prosiect peilot yn cynnwys disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Dyffryn Nantlle ac Yr Orsaf (gweler y ddolen we isod).

Cefndir

Mynegodd Ysgol Dyffryn Nantlle ddiddordeb mewn cynnig cyfle i griw o 6 disgybl blwyddyn 11 fynychu cwrs Dewch i Goginio dros gyfnod o 6 wythnos. Mae cwrs Dewch i Goginio yn un o’r cyrsiau sydd ar gael fel rhan o’r rhaglen ‘Sgiliau Maeth am Oes’, sy’n darparu cyfleoedd i aelodau’r cyhoedd o bob oed elwa o hyfforddiant bwyd a maeth.  Mae’r tîm Dieteteg Iechyd Cyhoeddus yn darparu amrywiaeth o gyrsiau ar draws Gwynedd a Môn. Er gwaethaf y ffaith mai dyma’r tro cyntaf i’r tîm weithio o fewn ysgol uwchradd, ar y cyfan profodd hyn yn brofiad cadarnhaol iawn i’r tiwtor a chyfranogwyr.

Fe gyflwynwyd y cwrs yn ‘Yr Orsaf’ – Canolfan gymunedol ym Mhenygroes sydd wedi bod yn gefnogol o’r gwaith a wnaed gan y Tîm Iechyd Cyhoeddus Deietegol lleol dros y misoedd diwethaf.

Isod ceir llun o rai o’r cyfranogwyr a fynychodd y cwrs.

Manylion y cyrsiau

Mae Dewch I Goginio yn dysgu sgiliau maeth a choginio ymarferol mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Mae’r cwrs yn cefnogi pobl i gynyddu eu hyder, eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth baratoi prydau iach, diogel, a chost-effeithiol iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau coginio. Cynhelir y cwrs mewn sesiynau 2.5 awr dros 6 wythnos ac mae’n cynnwys dysgu drwy weithgareddau seiliedig ar theori a dilynir hynny gyda sesiwn goginio ymarferol bob wythnos.

Cafodd amrywiaeth o brydau eu coginio dros gyfnod y cwrs ac roedd modd i ddisgyblion gymryd cyfran adref i flasu gyda’u teulu. Cafodd y disgyblion eu hannog i ymarfer sgiliau coginio a ryseitiau newydd gartref, a darparwyd llyfr rysáit iddynt ar ôl cwblhau’r cwrs. Roedd ryseitiau newydd a gafodd eu mwynhau’n arbennig gan y grŵp yn cynnwys ‘quesadillas’ a chawl cennin a tatws, roedd y bisgedi braf a chrempogau hefyd yn boblogaidd. Roedd rhai o’r cyfranogwyr yn mwynhau rhoi cynnig ar rai bwydydd am y tro cyntaf gan gynnwys ffacbys, tatws melys, a slotch.

Mae pob cwrs maeth a ddarperir gan y tîm dietetig iechyd cyhoeddus am ddim ac fe ariannodd yr ysgol gost y cynhwysion ar gyfer y cwrs yma sydd fel arfer rhwng £100-120 ar gyfer yr holl gynhwysion i 6 cyfranogwr am y 6 wythnos.

Gwerthusiad

Derbyniodd pob cyfranogwr dystysgrif ac adroddiad adeiladol unigol byr ar ddiwedd y cwrs a werthfawrogwyd ganddynt. Cafodd y cwrs ei werthuso’n dda iawn gyda nifer yn mynegi diddordeb mewn sesiynau yn y dyfodol gyda’r tiwtor.

Isod mae ymatebion ac adborth dderbynwyd trwy ffurflenni gwerthuso ddiwedd y cwrs. 

• ” Mi wnes i fwynhau’r cwrs hwn”

• Roedd pawb a gymerodd ran yn graddio’r cwrs yn dda neu ardderchog yn ogystal ag adrodd i fod yn fwy neu’n llawer mwy hyderus ynghylch paratoi bwyd iach ers mynychu’r cwrs.

• Pan ofynnwyd iddynt beth yw’r peth pwysicaf a ddysgon nhw roedd yr ymatebion yn cynnwys – ” sut i gadw’n iach” a “sut i goginio gyda chynhwysion ffres yn lle bwydydd wedi eu paratoi ymlaen llaw”

Yn ôl aelodau staff yr ysgol, mae’r cwrs wedi bod yn brofiad gwerthfawr a phleserus i’r disgyblion ac mae ymholiadau wedi eu gwneud ynghylch y posibilrwydd o gynnal cyrsiau gyda disgyblion a rhieni yn y dyfodol, sy’n syniad cyffrous.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae tîm dietetig Iechyd y Cyhoedd yn gobeithio gallu gweithio gydag ysgolion uwchradd eraill yn y Gorllewin i gefnogi disgyblion Blwyddyn 11 a chweched dosbarth i ddatblygu eu sgiliau maeth a choginio a pharatoi ar gyfer byw yn fwy annibynnol ar ôl gadael yr ysgol. Mae cyrsiau eraill gan gynnwys sesiynau ‘Paratoi pryd Iach’ a sesiynau ‘Bwyta’n dda Cynio’n Well’ yn opsiynau addas i bobl ifanc. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn cynllunio sesiynau at y dyfodol ac yn dod i gysylltiad rheolaidd â thîm ysgolion iach Gwynedd a Môn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sgiliau Maeth am Oes®neu ein tudalen BCUHB bwrpasol i gael manylion am yr holl gyrsiau: Cyrsiau – Sgiliau Maeth am Oes®

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i unrhyw un o’n cyrsiau neu os hoffech drafod y posibilrwydd y bydd ein tîm yn cynnal cyrsiau yn eich ysgol, ffoniwch 03000 851750 neu e-bostiwch – [email protected]

Yr Orsaf | hwb cymunedol, caffi a llety ym Mhenygroes

Website design by Celf Creative

Skip to content