Gwobr Byrbryd Iach

Peilot o Gwobr Byrbryd Iach yn Sir Gaerfyrddin

Mae cynllun beilot o’r Wobr Byrbryd Iach wedi chael ei gynnal yn Sir Gaerfyrddin ac roed Cylch Meithrin Eco Tywi yn un o’r lleoliadau a oedd yn llwyddiannus i dderbyn y wobr.   

Mae’r Wobr Byrbryd Iach yn dangos fod lleoliad yn dilyn yr argymhellion a wneir yng Nghanllawiau Arfer Gorau Bwyd a Maeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant ac mae bod yn rhan o’r cynllun yn dangos ymrwymiad i iechyd plant ac yn annog arferion bwyta da.

Yn derbyn y wobr eglurwyd Eco Tywi: Nod y Cylch Meithrin yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed i oedran ysgol ac mae gweithio tuag at Wobr Byrbryd Iach wedi caniatáu i ni addysgu plant Cylch Meithrin Eco Tywi am fyrbrydau iach. 

Rydym ni’n Gylch Meithrin sy’n rhoi pwyslais mawr ar gynnal gweithgareddau y tu allan. Mae gennym hefyd ethos cryf o fod yn ddi-blastig. Rydym yn tyfu llysiau a ffrwythau ein hunain yn yr ardd ac yn credu’n gryf ei bod yn bwysig dysgu’r plant y pwysigrwydd o fod yn hunangynhaliol a thyfu cnydau eu hunain.

Ers dechrau gweithio tuag at wobr Byrbryd Iach rydym wedi dod yn fwy ymwybodol o wahanol fathau o fyrbrydau iach gallwn ddarparu i’r plant. Rydym yn darparu amrywiaeth o wahanol ffrwythau a llysiau i’r plant yn ystod y dydd ac yn ystod eu byrbrydau. Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o fyrbrydau sydd yn cydymffurfio gyda rheoliadau maeth y Llywodraeth ar gyfer plant. Roedd gwefan y Llywodraeth a gwefan asiantaeth bwyd yn gymorth mawr wrth fynd ati i baratoi’r fwydlen. Cafwyd cymorth gan dietegydd o Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fynd cam wrth gam drwy’r cynllun a chreu’r fwydlen. Daeth allan i arsylwi ar amser byrbryd a gwneud arsylwadau.

Rydym wedi mwynhau ymgymryd â’r wobr Byrbryd iach ac yn falch iawn ein bod wedi llwyddo. Rydym yn sicr yn mynd i barhau gyda’r wybodaeth rydym wedi ei ddysgu er mwyn darparu byrbryd iachus o safon uchel i’r plant sydd yn ein gofal.

Un newid rydym wedi sefydlu yw sicrhau bod y dysgwyr yn gallu bod yn fwy annibynnol wrth wneud dewisiadau iach yn ystod y dydd. Rydym wedi prynu poteli dŵr i’r Cylch fel ein bod yn gallu gosod lluniau o bob plentyn arnynt a bod modd iddynt fynd i nôl dŵr yn annibynnol.  Rydym hefyd yn annog y plant i daenu dost eu hunain, arllwys llaeth i gwpan a thorri ffrwythau.

Ffocws arall i ni o ran annog bwyta iach a dealltwriaeth am fwyd a byrbrydau yw sicrhau amrywiaeth I’r plant. Mae’n bwysig iawn i ni fel cylch ein bod yn dathlu diwylliannau a chrefyddau gwahanol ac o’r herwydd rydym yn sicrhau bod y plant yn cael cyfle i flasu gwahanol fwydydd a dathlu diwylliannau gwahanol. 

Mae arweinydd y Cylch lawr ar y rhestr i wneud y Lefel 2 Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar sydd yn cael ei gynnig gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Credwn yn gryf bydd y cwrs yma yn datblygu gwybodaeth bellach yr arweinydd ac y bydd yn gallu rhannu’r wybodaeth yma gyda staff y cylch.

Byddwn yn parhau i ddilyn y camau gweithredu er mwyn sicrhau ein bod yn darparu byrbrydau a chinio iachus o safon uchel i’r plant yn ein gofal. Rydym am sicrhau ein bod yn parhau i lunio bwydlen dymhorol sydd yn cynnwys y maeth sydd ei angen ar y plant yn ogystal a chynnig amrywiaeth o fwyd sydd yn addas i oedran plant y Cylch. O ran staff byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau I ddarparu gwybodaeth i’r staff cyfredol a staff newydd ynglŷn â dogn y bwyd mae’r plant fod i gael.

Yn sgîl llwyddiant ein gardd eleni rydym yn awyddus i ddatblygu hyn ymhellach.  Rydym hefyd yn awyddus i barhau i ddefnyddio llysiau a ffrwythau sydd yn ei dymor a phrynu yn lleol er mwyn lleihau ôl troed carbon.

Gan ein bod wedi llwyddo i gwblhau’r cynllun byrbryd iach rydym wrthi’n gwneud y Cwrs Cynllun Cyn Ysgol Iach.

Am fwy o wybodaeth am y Wobr Byrbryd Iach a Maeth i Blynyddoedd Cynnar clicliwch yma, neu cysylltwch â’ch tîm lleol.

Website design by Celf Creative

Skip to content