Pwysigrwydd lleoliadau gofal plant mewn maeth plant

Oeddech chi’n gwybod bod patrymau bwyta’n iach a chadw’n heini a sefydlwyd yn ystod plentyndod a’r blynyddoedd cynnar yn darparu sylfaen bwysig ar gyfer iechyd a lles plentyn yn y dyfodol? 

Mae adroddiadau Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Bwyd a Maeth mewn lleoliadau Gofal Plant yn gallu annog arferion iach yn gynnar yn y broses a chael dylanwad cadarnhaol ar sut mae plant yn datblygu, tyfu a dysgu trwy gydol eu hoes. 

Mae Sgiliau Maeth am Oes yn credu y gall lleoliadau gofal plant chwarae rhan allweddol wrth ddarparu bwyd maethlon o safon uchel, i blant yn eu gofal. Mae yn dros 80,000 o leoedd gofal plant a chwarae yng Nghymru – gan arwain at effaith bosibl aruthrol ar fywydau llawer o blant ifanc. 

Mae’r gogyddes, awdur bwyd a chyflwynydd teledu o Gymru, Beca Lyne-Pirkis, yn Lysgennad Pwysau Iach: Cymru Iach, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atal a lleihau gordewdra. Yma, mae hi’n esbonio pwysigrwydd gofal plant ym maes maeth plant a’r budd y gall hyn ei gael ar deuluoedd cyfan. 

Ar ôl astudio Maeth Dynol a Dieteteg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mae Beca yn credu’n gryf bod byrddau iechyd, ymarferwyr gofal plant a gweithwyr proffesiynol mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i lunio arferion bwyta ac i gefnogi babanod a phlant i fwyta’n dda. 

“Gall ymarferwyr wneud hyn mewn lleoliadau gofal plant ar gyfer plant o enedigaeth a hyd at 12 oed trwy: 

1. Cefnogi merched sy’n dewis bwydo ar y fron i barhau i wneud hynny 

2. Cefnogi teuluoedd i annog babanod i fwyta amrywiaeth eang o fwydydd wrth ddechrau bwydydd solet 

3. Sicrhau bod plant yn cael y swm cywir o egni a maethynnau o’u prydau bwyd, byrbrydau a diodydd 

4. Darparu gweithgareddau i blant i ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at fwyd, amser bwyd a’u hiechyd 

5. Darparu’r offer a’r wybodaeth am faeth i deuluoedd a gofalwyr i greu ffyrdd iach o fyw iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau 

“Dylai pob teulu gael mynediad at fwyd fforddiadwy o ansawdd da gan fod hyn yn cael effaith ar iechyd a lles hirdymor plant. Dyna pam mae’r mentrau a grëwyd gan Sgiliau Maeth am Oes ac a gydlynir o fewn lleoliadau gofal plant yn darparu cyfleoedd cynhwysol i bawb wella eu hiechyd.” 

“Rwy’n annog y rheini mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar i edrych ar wefan Sgiliau Maeth am Oes i weld pa hyfforddiant sydd ar gael fel y gall teuluoedd elwa ar addysg ynghylch prydau iach hawdd i’w creu yn eu lleoliad gofal plant a gartref.” 

“Mae’r wefan yn cynnwys digonedd o gefnogaeth a gwybodaeth am fentrau fel Gwobr Byrbrydau Iach Safonol Aur, Tystysgrif Arfer Gorau Boliau Bach, y rhaglen Bwyd a Hwyl a Dechrau Coginio – dim ond rhai o’r mentrau sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol y gall lifo drwy teuluoedd a chenedlaethau i ddod.” 

Drwy ei sioeau coginio, Becws a Parti Bwyd Beca sy’n darlledu ar S4C, mae Beca yn addysgu gwylwyr am brofiadau coginio ei theulu ei hun a’u hoff ryseitiau. Mae Beca’n credu bod dysgu am briodweddau bwyd a datblygu sgiliau coginio o oedran ifanc yn hanfodol wrth ddatblygu diet iach. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi, ewch i: Beth sy’n digwydd yn fy ardal i – Sgiliau Maeth am Oes® 

Mae strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach yn canolbwyntio ar atal ac adeiladu ymagwedd system gyfan tuag at fwyta’n iach. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â chefnogi unigolion ar sut i wella eu diet, bod y strategaeth yn ystyried sut i gefnogi pawb – beth bynnag fo’u hoedran – i gael mynediad at fwyd iach. Mae hyn yn cynnwys polisïau sy’n annog dewisiadau iach wrth i bobl wneud eu siopa wythnosol, bwyta allan neu ymweld â llefydd sy’n rhan o’u bywydau dydd i ddydd. 

Mae lleoliadau allweddol fel gofal plant blynyddoedd cynnar, ysgolion, canolfannau hamdden, ieuenctid a chymunedol yn ogystal ȃ lleoliadau gofal ar gyfer pobl hŷn/oedolion bregus yn fannau lle gall pobl dreulio llawer o’u hamser. Gall gweithwyr a gwirfoddolwyr wneud gwahaniaeth mawr i ddeiet cyffredinol pobl trwy wneud y defnydd gorau o’r addysg maetheg, hyfforddiant ac adnoddau sydd ar gael. 

I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru, ewch i https://www.llyw.cymru/strategaeth-pwysau-iach-pwysau-iach-cymru-iach 

Website design by Celf Creative

Skip to content