TRWY DDEFNYDDIO’R WEFAN SGILIAU MAETH AM OES RYDYCH YN CYTUNO I GAEL EICH RHWYMO GAN Y TELERAU A’R AMODAU HYN. EICH DEFNYDD O’R WEFAN YW EICH CYTUNDEB Â’R TELERAU.

Polisi Preifatrwydd

Mae’r wefan hon yn parchu eich hawl i breifatrwydd o ran unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhoi i ni.

Gweler y polisi ar wahân ar gyfer Preifatrwydd a Chwcis am fwy o fanylion

DEFNYDDIO CYNNWYS

  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon er gwybodaeth a defnydd cyffredinol yn unig. Gall y cynnwys newid heb rybudd.
  • Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn darparu unrhyw warant o ran cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd nac addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys anghywirdebau neu wallau ac nid ydym yn atebol am unrhyw anghywirdebau neu wallau o’r fath i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.
  • Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon yn cael ei wneud ar eich risg eich hun, ac ni fyddwn yn atebol am hynny.
  • Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni neu sydd wedi’i drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y dyluniad, y cynllun, golwg, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu oni bai ei fod yn unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n rhan o’r telerau ac amodau hyn.
  • Gall defnydd anawdurdodedig o’r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu gallai fod yn drosedd.
  • O bryd i’w gilydd gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi er mwyn darparu rhagor o wybodaeth. Nid ydynt yn dynodi ein bod yn cymeradwyo’r wefan neu’r gwefannau hyn. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y wefan neu’r gwefannau cysylltiedig.
  • Mae eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o’r fath ddefnydd o’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.

Website design by Celf Creative

Skip to content