Ap newydd i gynnig cyngor a chymorth maeth a gweithgaredd corfforol dibynadwy i ferched beichiog

Mae Ap ffôn symudol cyntaf o’i fath wedi’i lansio i helpu i gefnogi merched beichiog gyda gwybodaeth ddibynadwy gan weithwyr proffesiynol y GIG y gallant ddibynnu arni.
Mae’r Ap o’r enw Foodwise in Pregnancy, yn cynnwys chwe adran i weithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun gyda ryseitiau, awgrymiadau siopa a chynlluniwr prydau bwyd, yn ogystal ag ymarferion cam-wrth-gam sy’n ddelfrydol ar gyfer beichiogrwydd. Mae’r Ap hefyd yn caniatáu i bobl osod nodau trwy gydol eu beichiogrwydd, recordio gweithgaredd ymarfer corff a bwyd, ac mae’n cynnwys gemau rhyngweithiol, cwisiau ac offer.
Mae’r Dietegydd Iechyd Cyhoeddus Andrea Basu a chydweithwyr dieteg o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi bod yn gweithio gyda dietegwyr Sgiliau Maeth am Oes a maethegwyr o Fyrddau Iechyd ledled Cymru, i helpu i gynllunio, datblygu ac adolygu cynnwys yr Ap.
Mae rhyddhau’r Ap yn amserol gan ei fod yn ymateb i waith ymchwil Insight yng Ngogledd Cymru, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Amlygodd yr ymchwil y byddai merched beichiog a bydwragedd yn gwerthfawrogi Ap i alluogi mynediad cyflym a hawdd at wybodaeth gyfredol ar bynciau allweddol fel bwyd a maeth.

Dywedodd Andrea Basu, Arweinydd Gwasanaeth Deieteg Iechyd Cyhoeddus: “Rwy’n falch iawn bod yr Ap Foodwise In Pregnancy bellach ar gael ac yn rhad ac am ddim. Rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae bydwragedd a mamau beichiog wedi’i ddweud yr hoffent ei gynnwys er mwyn sicrhau bod gan yr Ap lawer o nodweddion gwych fel ryseitiau maethlon, cyngor diogelwch bwyd, awgrymiadau siopa a chynllunio prydau bwyd, traciwr bwyd a gweithgaredd, ymarferion diogel cam wrth gam ar gyfer beichiogrwydd a llawer mwy!
“Fel Deietegydd, rydyn ni’n gobeithio y bydd dod â gwybodaeth gywir a diduedd ynghyd mewn un lle, a thrwy wasgu botwm, yn helpu merched i gael cyngor ar faeth, gweithgaredd corfforol a phwysau iach i’w cefnogi ar eu taith beichiogrwydd iach.”
Mae’r Ap Foodwise In Pregnancy wedi’i gynllunio i wella mynediad at wybodaeth ymarferol am ffordd iach o fyw a’i nod yw cefnogi merched i fwyta’n iach, bod yn actif a chadw pwysau iach yn ystod eu beichiogrwydd.
Mae’r Ap Foodwise In Pregnancy am ddim i’w lawrlwytho o Google Play neu Apple Store.

Website design by Celf Creative

Skip to content