Canllawiau Arfer Gorau: Bwyd a Maeth mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

Cynhyrchwyd y Canllawiau Arfer Gorau Bwyd a Maeth mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn gan Lywodraeth Cymru i helpu cartrefi gofal i gefnogi eu preswylwyr i fwyta ac i yfed yn dda, i ddarparu bwyd o ansawdd rhagorol sy’n diwallu eu hanghenion a’u cefnogi i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl. Gall pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal fod mewn perygl o beidio â chael digon o faeth, yn enwedig os oes ganddynt gyflyrau sy’n effeithio ar eu gallu i fwyta ac yfed.

Mae’r adnodd ymarferol, hawdd ei ddefnyddio hwn yn cynnwys gwybodaeth am ba fwyd a diod y mae pob cartref gofal eu hangen drwy gydol y dydd i gyflawni arfer gorau ac i ddarparu gwasanaeth bwyd o ansawdd uchel i’r rhai yn eu gofal.

Sut gallwn ni helpu?

Mae’r cyrsiau Sgiliau Bwyd a Maeth i’r Rhai sy’n Darparu Gofal a Gwella Gofal Bwyd a Maeth ar gyfer Grŵp Cleientiaid yn cyd-fynd â’r ddogfen hon, yn adlewyrchu’r canllawiau yn ymarferol ac yn cefnogi ei gweithrediad.

Website design by Celf Creative

Skip to content