Oedolion Hŷn

Gallwn ddarparu hyfforddiant a chymorth ymarferol i gartrefi gofal oedolion hŷn er mwyn eu helpu i weithredu’r canllawiau arfer gorau, i sicrhau bod preswylwyr yn bwyta ac yn yfed yn dda, i ddarparu bwyd o ansawdd rhagorol sy’n diwallu eu hanghenion, ac i’w cefnogi i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl. Gall pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal fod mewn perygl arbennig o fod â diffg maeth, yn enwedig os oes ganddynt gyflyrau sy’n effeithio ar eu gallu i fwyta ac yfed.

Mae rhagor o wybodaeth am y canllawiau ar gael yma.

Mae’r cyrsiau lefel 2, Sgiliau Bwyd a Maeth i’r Rhai sy’n Darparu Gofal a Gwella Gofal Maeth ar gyfer Grŵp Cleientiaid, yn cyd-fynd â’r ddogfen arfer gorau ac maent yn adlewyrchu sut y dylid arfer y canllawiau. Mae’r rhain yn gyrsiau sgiliau maeth achrededig ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Adnoddau defnyddiol

Website design by Celf Creative

Skip to content