Gweithle

Mae mentrau bwyd ac iechyd yn y gweithle yn cael eu cynnal mewn rhai ardaloedd. Dyma rai enghreifftiau o fentrau bwyd ac iechyd yn y gweithle:

Cefnogi staff y GIG yn BIPBC yng Ngogledd Cymru

I gefnogi ‘Dydd Mercher Lles’, cafodd staff ac ymwelwyr 3 phrif safle ysbyty Gogledd Cymru gynnig pryd o fwyd am £1 bob dydd Mercher trwy gydol y fenter. Dewiswyd y prydau bwyd o Fframwaith Bwydlenni Ysbytai Cymru Gyfan a ddefnyddir gan arlwywyr GIG Cymru. Er mwyn annog staff i roi cynnig ar brydau bwyd heb gig, roedd llawer o’r ryseitiau’n canolbwyntio ar ffynonellau eraill o brotein e.e. ffa, ffacbys a chodlysiau. Roedd y fenter yn cynnig cymhellion ychwanegol i annog staff i roi cynnig ar baratoi’r ryseitiau gartref, gan gynnwys pecynnau sbeis bach a llyfr ryseitiau gyda gwybodaeth a dadansoddiadau maeth. Gan iddo fod mor boblogaidd, mae’r fenter wedi cael ei hail-redeg sawl gwaith ers 2019 ac mae’n parhau i fod yn ffefryn cadarn gyda staff 2021, gyda chyfleoedd yn y dyfodol i gael staff i ymgysylltu mwy â gweithgareddau a chyfleoedd bwyta’n iach. Mae’r gwaith hwn yn rhan bwysig o thema Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru – ‘lleoliadau iach’ a ‘GIG iach’.

Safonau Bwyta’n Iach ar gyfer Bwytai a Siopau Manwerthu mewn Ysbytai

Ym mis Tachwedd 2019, diweddarwyd y Safonau Bwyta’n Iach ar gyfer Bwyty a Siopau Manwerthu mewn Ysbytai gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac maent wedi ymrwymo i wella iechyd a lles y gweithlu yn ogystal â’r boblogaeth leol.  Mae’r safonau hyn yn berthnasol i bob bwyty a siopau manwerthu bwyd sy’n cael eu rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rydym yn mabwysiadu’r dull o sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawsaf. Mae’r safonau’n cael eu harchwilio’n rheolaidd, ac rydym yn parhau i wella argaeledd, fforddiadwyedd, a’r ystod o opsiynau iach a gynigir. Mae Caerdydd a’r Fro hefyd wedi ailennill y Safon Aur y Safonau Iechyd Corfforaethol.

Iechyd galwedigaethol staff – gwasanaeth deietegol

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wasanaeth deietegol ar gyfer staff er mwyn eu cefnogi i newid eu harferion dietegol mewn ymateb i gyflyrau iechyd penodol.

Website design by Celf Creative

Skip to content