Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach

Pwysau Iach: Cymru Iach yw cynllun deng mlynedd Llywodraeth Cymru i drawsnewid y ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn ein bywydau bob dydd sy’n effeithio ar ein pwysau a’n lles. Mae’r Strategaeth wedi’i gosod ar draws pedair thema: Amgylcheddau Iach, Lleoliadau Iach, Pobl Iach ac Arweinyddiaeth a Galluogi Newid. Mae’r blaenoriaethau newydd, a gyhoeddwyd o ganlyniad i bandemig Covid-19, yn cynnwys ymrwymiad i gefnogi digideiddio Sgiliau Maeth am Oes® – gweler Maes Blaenoriaeth 4: Dechrau cyflawni’r llwybr gordewdra diwygiedig.

Sut gallwn ni helpu?

Bydd galluogi parhad ein holl hyfforddiant a’n mentrau yn y gymuned drwy eu darparu’n rhithwir yn sicrhau y gall pobl barhau i gael mynediad at y rhaglen a chael budd ohoni. Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 a Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar; Bwyd Doeth am Oes, Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd, Sgiliau Bwyd a Maeth yn y Gymuned (Lefel 1), Dechrau Coginio a Dewch i Goginio oll wedi’u haddasu ar gyfer cyflwyniad rhithwir.

Website design by Celf Creative

Skip to content