Gweithiwr cymunedol: Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob menyw feichiog a hoffai gael cymorth gyda gwybodaeth ac awgrymiadau ar fwyta’n dda, gyda chadw’n heini, a chyda sicrhau eu bod yn rhoi pwysau iach yn ystod beichiogrwydd.

Mae chwe sesiwn i gyd, a gellir eu cyflwyno’n wythnosol am chwe wythnos. Mae pob sesiwn yn hwyliog ac yn anffurfiol ac yn para am tua 1-1½ awr Mae’r sesiynau’n cwmpasu’r cynnwys canlynol

SesiwnCynnwys
1Paratoi ar gyfer newid am oes
2Bwyta’n dda
3Meintiau prydau a chi
4Labeli bwyd
5Canolbwyntio ar eich bwyd
6Newid am Oes

Mae croeso i bartneriaid, i ffrindiau neu aelod o’r teulu fod yn bresennol.


Adborth gan gyfranogwyr

“Rwyf wedi sôn am y rhaglen hon wrth bob un o’m ffrindiau sydd â phlant ifanc neu’n disgwyl, neu sy’n bwriadu dechrau teulu yn y dyfodol. Rwy’n credu ei fod yn wych pa bynnag gam rydych chi ynddo!”

“Mi wnes i fwynhau’r cwrs, roeddwn yn falch o allu cael cyngor personol a chyfle i ofyn mil o gwestiynau!”

Mae’r newidiadau rydw i wedi’u gwneud wedi bod mor rhwydd. Ni ddylai fod yn anodd eu cynnal”.

“Ffordd wych, rhad ac am ddim, i sicrhau eich bod chi a’ch teulu cyfan yn bwyta’n iach! Cymorth deiet proffesiynol am ddim yn ystod beichiogrwydd!”


Mae ap newydd sbon am ddim ar gael nawr i ategu’r cwrs Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd.

Os hoffech roi cynnig ar yr ap, mae ar gael i’w lawrlwytho o’r Apple Store a Google Play.

Gellir lawrlwytho poster i hyrwyddo hyn yn eich ardal chi yma.

I gael gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer sut i fynychu neu gyflwyno’r rhaglen hon, dewiswch eich ardal Bwrdd Iechyd chi.

Sesiwn ar-lein 1: Ffrwythau a llysiau

Sesiwn ar-lein 2: Tatws, bara, reis, pasta a charbohydradau eraill â llawer o startsh

Sesiwn ar-lein 3: Ffa, codlysiau, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill

Sesiwn ar-lein 4: Cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen

Sesiwn ar-lein 5: Brasterau a siwgr

Sesiwn ar-lein 6: Darllen labeli bwyd a diod

Sesiwn ar-lein 7: Hydradu

Website design by Celf Creative

Skip to content