Cwrs Bwyd Doeth am Oes

Lefel 1, 2 gredyd

Os hoffech ddysgu mwy am sut i golli pwysau mewn ffordd iach, sut i ddod yn fwy egnïol, a chael cefnogaeth a syniadau i’ch helpu i newid eich arferion bwyta, mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi.

Cyflwynir Bwyd Doeth am Oes gan weithwyr cymunedol hyfforddedig; mae’r sesiynau yn hwyliog, yn anffurfiol ac yn ymdrin ag ystod o bynciau i’ch annog a’ch cefnogi. Mewn rhai ardaloedd, gellir cyflwyno’r sesiynau ochr yn ochr â sesiynau ymarfer corff fel y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Mae wyth sesiwn ac mae pob sesiwn yn 1-1½ awr o hyd. Gellir cyflwyno sesiynau bob wythnos neu bob pythefnos, naill ai dros y we neu wyneb yn wyneb. Mae’r sesiynau’n trafod y cynnwys canlynol.

SesiwnCynnwys
1Paratoi ar gyfer newid am oes
2Canllaw Bwyta’n Dda
3Meintiau prydau a chi
4Mynd a Dod
5Labeli bwyd
6Canolbwyntio ar eich bwyd
7Amnewid bwyd a diod
8Newid am Oes

Mae’r cwrs Bwyd Doeth am Oes ar gyfer unrhyw un dros 18 oed a chyda mynegai màs y corff (BMI) o dros 25kg/m². Os nad ydych yn siŵr beth yw eich BMI, gallwch gysylltu â thiwtor y cwrs, gofyn i’ch meddyg teulu neu nyrs practis, neu roi cynnig ar ei gyfrifo gan ddefnyddio Cyfrifiannell pwysau iach BMI y GIG. / neu drwy ddefnyddio ap cyfrifiannell BMI y GIG.

Mae Bwyd Doeth am Oes wedi’i achredu gan Agored Cymru fel dau gredyd ar lefel un. Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs, neu eisiau gwybod sut i ennill credyd am ddysgu neu sut i ddod yn hwylusydd Bwyd Doeth am Oes, cysylltwch â’ch tîm deietegol lleol.


Adborth gan gyfranogwyr

“Rydw i wedi gwneud llawer o newidiadau, rwy’n cerdded mwy ac yn bwyta llai”.

“Rydw i wedi dysgu bod gormod o siwgr/halen mewn llawer o gynhyrchion, wedi dysgu sut i chwilio am ddewisiadau amgen, a sut i leihau maint prydau”.

“Dwi’n mynd i nofio gyda fy merch bob wythnos”.


Cymryd rhan

I gael gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer sut i fynychu neu gyflwyno’r rhaglen hon, dewiswch eich ardal Bwrdd Iechyd chi

Website design by Celf Creative

Skip to content