Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion

Mae ysgolion yn lleoedd delfrydol i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gydol oes. Mae strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn nodi ‘bydd y lleoliadau lle rydym yn dysgu, yn gweithio ac yn byw yn amgylcheddau cadarnhaol a fydd yn hyrwyddo bwyd iachach, yn addysgu plant a phobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr’ (LlC 2019).

Mae hyn yn cael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth o ran darparu bwyd ysgol yng Nghymru. Rhaid i’r bwyd a diod a ddarperir ym mhob ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol fodloni Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013 (‘Rheoliadau’). Mae’r Rheoliadau’n nodi safonau maeth ar gyfer cinio ysgol arferol yn ogystal â gofynion bwyd a diod drwy gydol y diwrnod ysgol. Mae’r safonau maeth yn pennu lefelau isafswm neu uchafswm ar gyfer egni ac 13 maetholyn ar gyfer cinio ysgol arferol a gyfrifir dros fwydlen wythnos. Mae’r gofynion bwyd a diod yn disgrifio’r mathau o fwyd a diod y mae’n rhaid eu darparu, y rhai sydd angen eu cyfyngu, a’r rhai na chaniateir rhwng brecwast a 6pm.

Sut gallwn ni helpu?

Gallwn ddarparu hyfforddiant a chymorth ymarferol i alluogi ysgolion i ddatblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â bwyd; i sefydlu camau gweithredu a arweinir gan gymheiriaid, megis Grwpiau Gweithredu Maeth Ysgol; i ddarparu gwybodaeth am fwyd a maeth sy’n gyson ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y cwricwlwm newydd, ac i gefnogi ysgolion i weithredu ac i fodloni’r rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion fel sy’n ofynnol o fewn fframwaith arolygu Estyn.

Website design by Celf Creative

Skip to content