Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar

Lefel 2

Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yn rhoi cyfle i’r holl staff sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant yn y blynyddoedd cynnar gael Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn maeth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y cwrs

Gall staff cymorth hefyd gwblhau’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 os ydynt yn dymuno cyflwyno grwpiau Dechrau Coginio neu Dewch i Goginio yn y gymuned. Bydd staff sy’n cwblhau’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2, yn ennill achrediad, ac yn cwblhau cyflwyniad Agored Cymru i hyfforddiant asesu, yn gallu darparu cyrsiau Sgiliau Maeth Lefel 1 gan gynnwys Dechrau Coginio a Dewch i Goginio.

Gall gweithwyr cymorth hyfforddedig gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig i gyflwyno sesiynau ymarferol ar gyfer grwpiau cymunedol, fel partïon diddyfnu (bwydo cyflenwol), paratoi prydau bwyd, a bwydo teulu ar gyllideb gyfyngedig.

Adnoddau defnyddiol

Rydym yn argymell bod yr holl staff yn mynychu sesiwn loywi hyfforddi maethu bob 2 flynedd er mwyn diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau maeth. Gwiriwch y tudalennau ‘Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?’ neu cysylltwch â’ch tîm deietegol i gael gwybod pryd mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn eich ardal chi.

Website design by Celf Creative

Skip to content