Sesiynau maeth Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN)

Rydym yn cydweithio ag arweinwyr cyrsiau’r Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru sy’n cynnig y cwrs Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) er mwyn ymgorffori negeseuon maeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer nyrsys sy’n hyfforddi i fod yn ymwelwyr iechyd, yn nyrsys ysgol, ac yn nyrsys iechyd galwedigaethol.

Nod yr hyfforddiant hwn yw sefydlu arferion da gydol oes, ac mae’n canolbwyntio ar ateb cwestiynau allweddol gan rieni am fwyta’n iach. Mae’r pynciau’n cynnwys y Canllaw Bwyta’n Dda; argymhellion ar gyfer atchwanegiadau fitamin rheolaidd, i blant yn enwedig, ac adolygu addasrwydd cynhyrchion fitaminau i blant sydd ddim yn gymwys i’r rhaglen Cychwyn Iach; pryd a sut i gyflwyno solidau; gweithgaredd grŵp bach sy’n ystyried y ffactorau sy’n effeithio ar ddewisiadau bwyd, gan gynnwys cefnogi bwyta’n dda ar incwm isel a negeseuon iechyd y cyhoedd o ran maeth a phwysau iach.

Amcanion Dysgu

Yr amcanion dysgu ar gyfer y sesiwn 2 awr yw:

  • Adnabod y berthynas rhwng gordewdra mamau/rhieni a phlant
  • Adnabod ystod eang o negeseuon bwyta’n dda a phwysau iach sy’n addas i deuluoedd
  • Egluro’r argymhellion bwyd a maeth cyfredol ar gyfer menywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron
  • Nodi’r canllawiau presennol o ran atchwanegiadau fitaminau a mwynau yn ystod y blynyddoedd cynnar
  • Archwilio dulliau cyfredol o fwydo ategol a’r sylfaen dystiolaeth gysylltiedig

Adborth gan gyfranogwyr

‘Gwybodaeth wych i’w ddefnyddio yn eich gwaith bob dydd’

‘Byddaf yn gallu rhoi cyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth i rieni ar fwydo babanod, a rhoi cyngor o ran bwydydd priodol i blant a’r teulu cyfan’

‘Rhoi cyngor i rieni ar roi fitamin D i’w plant’

‘Mae’n ei gwneud hi’n haws i siarad â rhieni ac i roi cyngor ar gwestiynau sy’n gysylltiedig â bwyd a dewisiadau iach, ac mae’n gyfredol’

Website design by Celf Creative

Skip to content