Hyfforddiant Maeth i Ymwelwyr Iechyd Cofrestredig

Nod yr hyfforddiant hwn yw darparu gwybodaeth am fwyd a maeth sy’n gyfredol ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a beichiogrwydd, gan hyrwyddo arferion iach o ran bwyta a bod yn egnïol o fewn teuluoedd, a chyfrannu at ymyrraeth gynnar ac atal gordewdra ymhlith plant. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys hanner diwrnod o drafod negeseuon bwyd a maeth a hanner diwrnod i drafod ‘Sut i grybwyll pwysau’ mewn ffordd briodol a sensitif.

Amcanion Dysgu

Mae’r dysgu yn adeiladu ar gynnwys sesiynau maeth SCPHN ac yn cynnwys:

  • Archwilio’r berthynas rhwng gordewdra mamau/rhieni a phlant
  • Gwerthuso ystod eang o negeseuon bwyta’n dda a phwysau iach sy’n addas i deuluoedd
  • Egluro’r argymhellion bwyd a maeth cyfredol ar gyfer menywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron
  • Egluro’r canllawiau presennol o ran atchwanegiadau fitaminau a mwynau yn ystod beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar
  • Gwerthuso dulliau cyfredol o fwydo ategol a’r sylfaen dystiolaeth gysylltiedig
  • Trafod sut i grybwyll y mater o bwysau, ac i siarad am y risgiau sy’n gysylltiedig â bod dros bwysau, mewn ffordd sensitif a phriodol

Adborth gan gyfranogwyr

”Rwy’n teimlo’n fwy hyderus nawr pan fyddaf yn gwneud ymweliadau i siarad am fwydo, maeth, siartiau twf a diddyfnu’

”Perthnasol iawn a defnyddiol wrth roi cyngor i rieni’

”Sesiwn dda iawn, dysgais lawer o bethau i’w defnyddio yn fy ngwaith bob dydd’

”Rwy’n fwy hyderus wrth ddarparu cyngor sydd wedi’i deilwra i anghenion teuluoedd. Diolch’

‘Byddaf yn defnyddio’r wybodaeth hon yn ddyddiol wrth ymweld â theuluoedd a phan fyddaf yn monitro twf a datblygiad mewn clinigau iechyd plant’

Website design by Celf Creative

Skip to content