Bwyta ar gyfer 1: Bod yn iach ac yn egnïol ar gyfer 2

Bwyta ar gyfer 1: Bod yn iach ac yn egnïol ar gyfer 2 (Wedi’i achredu gan RCM)

Nod yr hyfforddiant hwn, a ddatblygwyd gan y tîm Deieteg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw cefnogi dealltwriaeth ymarferwyr cofrestredig sy’n gweithio o fewn Bydwreigiaeth a/neu Wasanaethau Iechyd Menywod o’r risgiau sy’n gysylltiedig â gordewdra yn ystod beichiogrwydd, a’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi menywod i reoli eu pwysau’n iach ac yn ddiogel drwy ddefnyddio maeth a gweithgarwch corfforol.

Fel arfer mae’r hyfforddiant, sydd wedi’i achredu gan Goleg Brenhinol Bydwreigiaeth (RCM), yn cael ei ddarparu fel sesiwn hanner diwrnod, ond ers 2021 mae wedi’i addasu er mwyn galluogi ei gyflwyniad yn ddigidol. I ganfod a yw hyn ar gael yn eich ardal chi, ewch i’r dudalen ‘Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?’ neu cysylltwch â’ch tîm deietegol.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Amcanion Dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:

  • Egluro peryglon gordewdra yn ystod beichiogrwydd (i’r fam/ i’r ffetws ac i’r baban)
  • Disgrifio’r argymhellion ar gyfer magu pwysau yn ystod beichiogrwydd
  • Disgrifio sut i gefnogi menywod i gynnal pwysau iach a diogel yn ystod beichiogrwydd
  • Trafod gofynion maethol mamau os am gael beichiogrwydd iach a diogel
  • Amlinellu’r argymhellion cyfredol ar gyfer gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd

/

Website design by Celf Creative

Skip to content