Ysgolion

Mae Bwyd a Hwyl, neu’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, yn rhaglen a gynhelir mewn ysgolion dros yr haf sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, cymdeithasol ac addysgol drwy ddarparu prydau iach, addysg bwyd a maeth, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau’r ysgol.

Treialwyd ‘Bwyd a Hwyl’ yng Nghaerdydd yn 2015 a chyda cymorth cyllid Llywodraeth Cymru y mae wedi tyfu’n gyson, ac roedd 21 o awdurdodau lleol yn cynnal y cynllun yn 2019. Rheolir Bwyd a Hwyl gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gyda chefnogaeth grŵp llywio cenedlaethol gyda chynrychiolaeth deietegol.

Cynhelir cynlluniau ‘Bwyd a Hwyl’ mewn ysgolion lle mae dros 16% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol, a chaiff ei gynnal yn ystod gwyliau’r ysgol am isafswm o 12 diwrnod dros gyfnod o dair wythnos olynol o leiaf.

Mae maeth yn rhan o’r meini prawf craidd hanfodol. Rhaid i bob cydlynydd ‘Bwyd a Hwyl’ gwblhau’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn lledaenu negeseuon cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’u bod yn parhau trwy weddill y flwyddyn ysgol.

Bydd pob plentyn sy’n rhan o’r cynllun yn derbyn sesiynau bwyd a maeth rhyngweithiol a hwyliog a ddatblygwyd gan Ddeietegwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru ac mae adnoddau ar gael i helpu i’w darparu.

Mae’r ymgyrch Children’s Right2Food yn fenter genedlaethol i sicrhau bod pob plentyn yn y DU yn gallu cael mynediad at fwyd da a’i fforddio, ac fe’i lluniwyd gan ganfyddiadau Ymchwiliad Bwyd Plant yn y Dyfodol.

Mae’r ymgyrch hon, sydd dan arweiniad Llysgenhadon Bwyd Ifanc o bob rhan o’r DU ac yn cael ei gydgysylltu gan y Food Foundation, yn galw ar y llywodraeth i weithredu er mwyn mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd i blant ac anghydraddoldebau o ran gordewdra ymhlith plant, ac mae ei gweledigaeth yn cael ei mynegi yn y Siarter Children’s #Right2Food.

Mae Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys gofynion a chanllawiau’r cwricwlwm i gefnogi dyluniad y cwricwlwm newydd.

Mae 6 Maes Dysgu a Phrofiad yn rhan o’r Fframwaith, gan gynnwys Iechyd a Lles sy’n darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Mae deiet iach a chytbwys yn benodol wedi’i gynnwys yn y datganiad o’r hyn sy’n bwysig, ‘mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes’, ond gall hefyd fod yn berthnasol i’r datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig yn ogystal â meysydd dysgu eraill.

Adnoddau defnyddiol

Website design by Celf Creative

Skip to content