Dechrau Coginio

Lefel 1, 2 gredyd

Os ydych yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau coginio ymarferol, neu os hoffech gael syniadau am ryseitiau bwyta’n iach newydd, hwn yw’r cwrs delfrydol i chi. Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau o ran cynnal deiet cytbwys, i ddysgu ffyrdd gwahanol o goginio, i roi cynnig ar brydau newydd i chi a’ch teulu, ac i ddysgu sut i ddilyn canllawiau diogelwch bwyd a negeseuon bwyta’n iachach.

Trosolwg o’r Cwrs

  • Sesiynau 2 awr yr wythnos am gyfanswm o 7-8 sesiwn, ac maent yn hwyliog ac yn anffurfiol.
  • Byddwch yn gallu gwneud o leiaf 12 rysáit iach sy’n hawdd, yn gyflym ac yn flasus.
  • Mae ystod o ryseitiau gwahanol, o salad â dresin syml at gyri llysiau neu gyw iâr; mae prydau a fydd yn gweddu i bob chwaeth a dewis.
  • Cewch gyfle i fynd â’r prydau yr ydych wedi’u paratoi adref i’ch teulu; a byddwch yn derbyn llyfr ryseitiau pan fyddwch yn gorffen y cwrs.
  • Mae llawer o awgrymiadau ac argymhellion ar sut i goginio prydau iach pan fyddwch ar gyllideb. Os oes gennych unrhyw anghenion dietegol arbennig, bydd tiwtor y cwrs yn trafod hyn gyda chi. Mae’r cwrs yn trafod y cynnwys canlynol;
  • Canllaw Bwyta’n Dda a’r prif negeseuon bwyta’n iach
  • Paratoi i goginio gan ddilyn canllawiau hylendid bwyd a diogelwch bwyd
  • Paratoi a choginio amrywiaeth o brydau ysgafn, prif brydau a phwdinau prydau iach
  • Tasgau gwaith cartref i roi cynnig ar fwydydd a ryseitiau newydd gyda’ch teulu

Amlinelliad o’r Cwrs

Mae’r cwrs Dechrau Coginio wedi’i achredu ar lefel un ac mae’n werth dau gredyd (20 awr o ddysgu dan arweiniad). Mae credydau’n dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni, ac er mwyn ennill credyd mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid oes angen profiad blaenorol, mae’r sesiynau’n addas ar gyfer cogyddion profiadol a rhai newydd. Nid oes unrhyw arholiadau na thraethodau i boeni amdanynt, ond er mwyn profi eich bod wedi bodloni’r meini prawf asesu bydd tiwtor y cwrs yn tynnu lluniau o’r ryseitiau y byddwch yn eu gwneud trwy gydol y cwrs. Mae presenoldeb a’ch cyfraniad yn ystod y sesiynau hefyd yn rhan bwysig o’r asesiad. Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs.


Adborth gan gyfranogwyr

“Mae fy machgen bach wedi trio’r crymbl, mae’n ei garu!”

“Fe wnes i roi rhai o’r ryseitiau i fy ffrindiau. Roedd y cyri cyw iâr a’r byrgyrs cartref yn hyfryd!”

“Dwi’n coginio gan ddefnyddio cynhwysion ffres yn amlach nawr ac mae’n blasu’n well!”


Cymryd rhan

I gael gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer sut i fynychu neu gyflwyno’r rhaglen hon, dewiswch eich ardal Bwrdd Iechyd chi.

Website design by Celf Creative

Skip to content