Blynyddoedd Cynnar a Cychwyn Iach

Mae beichiogrwydd yn amser da i feddwl am yr hyn rydych chi’n ei fwyta. Bydd deiet iach yn helpu eich babi i ddatblygu a thyfu ac mae’n bwysig i’ch iechyd chi hefyd.

Bydd bwyta amrywiaeth o fwydydd gwahanol bob dydd yn darparu’r cydbwysedd cywir o’r holl faethynnau gwahanol yr ydych chi a’ch babi eu hangen.

Edrychwch ar y gweithgaredd hwn am fwy o ffeithiau am fwyta’n iach yn ystod beichiogrwydd.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i weld yr atebion cywir’.

Ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

I gael rhagor o wybodaeth,  edrychwch ar yr ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd. Mae’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho ac yn hawdd ei ddefnyddio

Lawrlwytho Canllaw Ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

Grwpiau Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Grwpiau Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd.

Ffilmiau Byr Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

Mae’r ffilmiau byr hyn gan y Dietegydd Cofrestredig, Ali Gunn, yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y prif negeseuon bwyd ac iechyd yn ystod beichiogrwydd.

Bwydo

Mae bwydo ar y fron yn rhoi manteision hirdymor i fabanod sy’n parhau nes byddent yn oedolion. Argymhellir i chi roi dim byd ond llaeth y fron am oddeutu 6 mis cyntaf (26 wythnos) o fywyd eich baban. Ar ôl hynny, bydd rhoi llaeth o’r fron yn ogystal â bwydydd solet yn eu helpu i barhau i dyfu a datblygu.

Mae’r gweithgaredd hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am fanteision bwydo ar y fron.

Mae bwyta’n dda a chwarae’n egnïol yn hanfodol wrth gynnal iechyd a lles plant ifanc, mae’n eu helpu i lunio arferion bwyta am oes ac yn help i sicrhau eu bod yn bwysau iach erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol. Un o’r egwyddorion sylfaenol i sicrhau bod plant o bob oed yn bwyta’n iach yw eu cael i fwyta amrywiaeth eang o fwydydd, gan eu galluogi i gael yr holl faethynnau y maent eu hangen i dyfu, i ddatblygu ac i gynnal eu lles. Mae’n bwysig cofio nad yw’r Canllaw Bwyta’n Dda yn berthnasol i blant dan 2 oed.

Dyma rai ffynonellau defnyddiol am wybodaeth pellach:

Rhowch Amser Iddo
Pob Plentyn Cymru
Naw Mis a Mwy

Mae lleoliadau chwarae a gofal plant yn cynrychioli cyfle delfrydol i gael plant i arfer â phatrwm bwyta rheolaidd a bwydydd iach. Gall eich plentyn fynychu lleoliad sy’n cymryd rhan yng Ngwobr Byrbryd Iach Safon Aur neu dystysgrif arfer gorau Boliau Bach. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith y mae lleoliadau yn ei wneud i hyrwyddo bwyta’n iach ar gael yma:

Mae’r Cynllun Cychwyn Iach yn gynllun prawf modd a gynhelir ledled y DU ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc. Os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych blentyn o dan 4 oed, gall y cynllun eich helpu i brynu bwydydd sylfaenol fel llaeth neu ffrwythau. Gall teuluoedd sydd ar incwm isel neu sy’n derbyn budd-daliadau penodol fod yn gymwys i gofrestru. Ar ôl cofrestru, mae teuluoedd yn cael dredyd ar gerdyn sy’n cael ei dalu ymlaen llaw i’w gwario ar laeth, codlysiau, ffrwythau a llysiau ffres neu wedi’u rhewi a llaeth fformiwla i fabanod. Os ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, bydd gerdyn rhagdaledig y cael ei ddanfon i chi ei ddefnyddio yn eich siopau lleol. Am ragor o wybodaeth a deunyddiau hyrwyddo, ewch i’r wefan yma

Gall menywod beichiog, mamau newydd a phlant dan 4 oed hefyd hawlio fitaminau am ddim.

Mae dau fath o fitaminau Cychwyn Iach;

  • Tabledi fitamin Cychwyn Iach i fenywod beichiog a’r rhai sy’n bwydo ar y fron
  • Diferion fitaminau Cychwyn Iach i blant, o’u genedigaeth tan eu 4ydd pen-blwydd

Nid yw blant sy’n cael 500ml neu fwy o fformiwla y dydd angen fitaminau Cychwyn iach .  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar  Wefan y GIG

Dyma rai syniadau am ffyrdd o wneud y gorau o’ch cerdyn Cychwyn Iach

Cliciwch ar y ddelwedd i weld neu i lawrlwytho’r daflen hon here.

Mae Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur ar gael i feithrinfeydd dydd, grwpiau Dechrau’n Deg, cylchoedd chwarae, meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a chlybiau ar ôl ysgol. Mae’r wobr hon yn rhoi cydnabyddiaeth pan ddarperir byrbrydau o safon mewn lleoliadau, ac mae bod yn rhan o’r cynllun yn dangos ymrwymiad i iechyd plant ac yn annog arferion bwyta da.

Mae’n dangos bod lleoliad yn dilyn yr argymhellion a wneir yng Nghanllawiau Arfer Gorau Bwyd a Maeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant.

Er mwyn enill y wobr hon, mae angen cyrraedd meini prawf penodol yn y meysydd canlynol: darparu byrbrydau a diodydd iach, amgylchedd bwyta cadarnhaol, hylendid bwyd a diogelwch. Mae gwobr lefel uwch yn rhan o’r cynllun hefyd, o’r enw Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur Uwch (gweler isod). Mae hyn yn cydnabod bod o leiaf un aelod o staff wedi cwblhau a chyflawni’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar neu’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol.

Mae’r cynllun yn cynnwys lefel uwch o’r wobr o’r enw Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur Uwch (Gweler isod).

Cliciwch ar y llyfryn i gael rhagor o wybodaeth am y wobr.

Dyma gynllun gwobr lefel uwch ar gyfer lleoliadau sydd eisoes wedi ennill Safon Aur Gwobr Byrbrydau Iach.

Mae’n cydnabod bod o leiaf un aelod o staff wedi cwblhau a chyflawni’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar neu’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol.

Cefnogir y Wobr hon gan nifer o fyrddau iechyd – am fwy o wybodaeth ewch i’r adran’Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?‘.

Mae Boliau Bach / Tiny Tums yn ddyfarniad Arfer Gorau ar gyfer lleoliadau gofal plant y Blynyddoedd Cynnar yng Ngogledd Cymru, a chaiff ei reoli gan Dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd BIPBC. Mae’r dyfarniad yn cydnabod ac yn gwobrwyo lleoliadau sy’n defnyddio arfer gorau wrth ddarparu bwyd a diod i blant rhwng 1-4 oed, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (2018).

I fod yn gymwys ar gyfer y dyfarniad, mae’n ofynnol i o leiaf un aelod o staff y lleoliad fod wedi cwblhau’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar (lefel 2) Ar ôl hyn, mae lleoliadau’n gymwys i wneud cais am y dyfarniad Boliau Bach gan gyflwyno eu bwydlenni, eu polisi bwyd a rhestr wirio bwydlen Boliau Bach i’r tîm dieteg.

Rhoddir adborth a chyngor adeiladol i gefnogi lleoliadau i gyflawni’r dyfarniad. Dyfernir tystysgrif Arfer Gorau a sticer ffenestr Boliau Bach i’r lleoliadau llwyddiannus, ac mae’n ddilys am 3 blynedd. Anogir lleoliadau i arddangos eu tystysgrifau ac i sôn wrth rieni a phlant am eu llwyddiant.

Adborth Boliau Bach gan leoliadau a rhieni:

“Rwy’n hoffi sut mae’r plant yn cael amrywiaeth o ‘brydau bwyd oedolion’ i’w helpu i feithrin hoffter o ystod amrywiol o flasau”

Rhiant plentyn yn un o leoliadau Boliau Bach

“Mae gen i deimladau cryf am ddeiet plant, mae’n bwysig ar gyfer eu twf a’u datblygiad. Mae’r fwydlen newydd yn lliwgar a’n llawn gweadau gwahanol, ac mae’r plant yn mwynhau eu bwyta a’u harchwilio”

Rheolwr cynorthwyol mewn lleoliad Boliau Bach

Gyda chymorth y Dietegwyr rydym yn hyderus bod ein bwydlen yn diwallu anghenion ein plant yn ogystal â bod yn flasus”

Rheolwr Meithrin

Datblygwyd Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Llywodraeth Cymru fel estyniad i Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach ac mae ganddo wyth cam penodol: cyfnod rhagarweiniol; maeth ac iechyd y geg; gweithgarwch corfforol/chwarae gweithredol; iechyd meddwl ac emosiynol; lles a pherthnasoedd; yr amgylchedd; diogelwch; hylendid ac iechyd a lles yn y gweithle.

Mae’r cam maeth ac iechyd y geg yn hyrwyddo dull lleoliad cyfan o ymdrin â bwyd, maeth ac iechyd y geg.

Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae lleoliadau eu hangen i weithredu’r camau hyn.

Mae Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur a Thystysgrif Arfer Gorau Boliau Bach yn cyd-fynd â’r meini prawf maeth ac iechyd y geg.

Bwyd a Hwyl

Efallai bod ysgol eich plentyn yn cymryd rhan yng nghynllun Bwyd a Hwyl. Mae’r cynllun yn darparu prydau iach, gemau a gweithgareddau bwyd a maeth, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd cyfoethogi i blant yn ystod gwyliau’r ysgol. Cymerwch olwg ar y fideo i gael gwybod mwy am Bwyd a Hwyl

Adborth gan gyfranogwyr

“Cyri cyw iâr, doeddwn i ddim wedi rhoi cynnig arno o’r blaen a nawr rwyf i wedi, roedd yn flasus hefyd” 

~ Plentyn a fu’n rhan o Bwyd a Hwyl

Rydyn ni’n cael tost, bagels, mae afalau, aeron, bananas, pob math o ffrwythau

~ Plentyn a fu’n rhan o Bwyd a Hwyl

“Rydyn ni wedi bod yn dysgu am gramau, gyda siwgr a braster, ac rydyn ni wedi bod yn dysgu pa fwyd i’w osgoi oherwydd ein calonnau” 

~ Plentyn a fu’n rhan o Bwyd a Hwyl

“Mae’n eich cael chi’n fwy egnïol, mae hynny’n beth da am y clwb yma”

~ Plentyn a fu’n rhan o Bwyd a Hwyl

“Y clwb yma ydy’r clwb gorau i mi erioed fod ynddo, yn fy holl fywyd!”

~ Plentyn a fu’n rhan o Bwyd a Hwyl

“Rwy’n hoffi diwrnodau rhieni oherwydd gallwch fwyta gyda nhw a dweud wrth eich teulu beth rydych chi wedi bod yn ei wneud”

~ Plentyn a fu’n rhan o Bwyd a Hwyl

“Y gwahaniaeth mwyaf y mae’r clwb wedi’i wneud yw’r anogaeth a’r pwyslais a roddir ar fwyta’n iach”

~ Rhiant

“Dwi’n meddwl ei fod o wedi cael tua dwy noson hwyr, ac mae hynny’n wyrth yn ystod gwyliau’r haf, maen nhw wedi blino’n lân pan maen nhw’n dod adref”

~ Rhiant

Mae arian yn brin ar hyn o bryd, fyddan nhw ddim angen pryd mor fawr gyda’r nos am eu bod yn cael cinio mawr [yn y clwb]. Mae’n arbed arian

~ Rhiant

Website design by Celf Creative

Skip to content