Boliau Bach
Mae gwobrau Boliau Bach yn cael eu dyfarnu yn dilyn asesiad trwyadl yn unol â Chanllawiau Arfer Gorau cyfredol Llywodraeth Cymru: Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant (2018). Mae’r safonau a argymhellir hefyd yn galluogi darparwr gofal plant i fodloni safonau ansawdd maeth sy’n ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru a’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy.
Sut gall Boliau Bach helpu darparwyr gofal plant? Mae ymarferwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i ffurfio arferion bwyd a chefnogi plant i fwyta’n dda.
Mae lleoliadau sydd wedi ennill Gwobr Arfer Gorau Boliau Bach yn:
cyd-fynd â safonau ansawdd Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) ar faeth
bodloni safonau maeth ac iechyd y geg y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy
cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Arfer Gorau Llywodraeth Cymru: Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Plant (2018)
darparu’r cydbwysedd cywir o fwyd a diod maethlon i fodloni’r argymhellion dietegol ar gyfer babanod a phlant cyn oed ysgol
annog plant i fwyta’n dda mewn amgylchedd iach a dysgu am fwyd
hyrwyddo cysondeb o ran negeseuon maeth ac annog cyfleoedd i drosglwyddo’r negeseuon hyn i deuluoedd
dangos i deuluoedd eu bod wedi ymrwymo i iechyd plant cyn oed ysgol drwy eu hannog i fabwysiadu arferion bwyta da a datblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddeiet cytbwys, iach
bod ag o leiaf un aelod o staff wedi’i hyfforddi ym maes maeth blynyddoedd cynnar gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd
gallu dangos logo Boliau Bach i rieni a theuluoedd ei weld
I ddarganfod sut mae bod yn ddarparwr gofal plant sydd wedi’i achredu â gwobr Boliau Bach o fudd i blant yn eich gofal a’u teuluoedd, cliciwch yma.
I ddarganfod mwy am wobr Arfer Gorau Boliau Bach a sut i wneud cais ewch i yma
Mae’r blynyddoedd cynnar a phlentyndod yn gyfnodau hollbwysig ar gyfer datblygiad ac yn darparu sylfaen bwysig ar gyfer dyfodol a lles plentyn. Mae darparwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i lunio arferion bwyta ac i gefnogi plant i fwyta’n dda.
Pam fod bwyta’n iach yn bwysig i blant mewn lleoliadau gofal plant? Mae angen i blant fwyta’r cydbwysedd cywir o egni a maetholion i ddatblygu a thyfu’n iach, i gadw pwysau iach ac i’w hamddiffyn rhag rhai clefydau. Mae’n bwysig bod plant yn gweld bwyd a phatrymau bwyta (yn y cartref a thu hwnt) sy’n hybu agweddau cadarnhaol a’u bod yn mwynhau bwyd da er mwyn eu helpu i ddatblygu patrymau bwyta’n iach o oedran cynnar. Gall lleoliadau gofal plant chwarae rhan bwysig yn hyn, trwy ddarparu bwyd maethlon o safon i’r plant yn eu gofal.
Mae darparu deiet iach a chytbwys i blant ifanc a diodydd nad ydynt yn niweidio eu dannedd yn hanfodol er mwyn:
- sicrhau eu bod yn cael y swm cywir o egni a maetholion yn ystod cyfnodau o dyfu a datblygu cyflym
- annog plant i fwyta amrywiaeth eang o fwydydd; mae arferion sy’n cael eu mabwysiadu’n ifanc yn fwy tebygol o barhau wrth i blentyn dyfu ac yn ystod ei fywyd fel oedolyn
- dylanwadu ar hoffterau bwyd ar adeg pan fo plant yn dechrau cael llais pendant wrth ddewis bwyd
- datblygu a chynnal pwysau iach
- helpu i leihau’r risg o bydredd dannedd
- helpu i atal diffyg haearn
- hybu iechyd y coluddyn a lleihau’r risg o fod yn rhwym
Oeddech chi’n gwybod…
Os yw plentyn yn mynychu gofal dydd llawn amser, bydd angen i tua 90% o’r egni a’r maetholion a argymhellir ddod o’r bwyd a diod a gynigir gan y darparwr gofal plant. Mae’n bwysig felly bod y lleoliadau hyn yn darparu ystod o fwydydd maethlon yn y swm cywir.
Am ragor o wybodaeth ac awgrymiadau da am fwyta’n iach i blant 1 – 4 oed ewch i Hwb Dechrau Gorau BIPBC.
Mae bwyta’n dda yn ystod pum mlynedd gyntaf bywyd plentyn yn hanfodol er mwyn iddo dyfu a datblygu’n gorfforol a meddyliol, ac ar gyfer ei iechyd yn y dyfodol. Gallwch fod yn hyderus y bydd lleoliad gofal plant sydd wedi’i achredu â gwobr Boliau Bach yn darparu’r symiau cywir o fwyd maethlon i’ch plentyn mewn amgylchedd a fydd yn eu hannog i ddatblygu agweddau cadarnhaol at fwyd.
Mae’r blynyddoedd cynnar a phlentyndod yn gyfnodau hollbwysig ar gyfer datblygiad ac yn darparu sylfaen bwysig ar gyfer dyfodol a lles eich plentyn. Mae darparwyr gofal plant mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu i lunio arferion bwyta ac i gefnogi eich plentyn i fwyta’n dda.
Mae gwobr Arfer Gorau Boliau Bach yn gynllun sydd ar gael i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Ngogledd Cymru. Mae’n dangos bod darparwr gofal plant wedi ymrwymo i iechyd a lles eich plentyn ac yn cydymffurfio â Chanllawiau Arfer Gorau Llywodraeth Cymru: Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Plant (2018)
Bydd darparwr gofal plant sydd wedi’i achredu â gwobr Boliau Bach yn helpu eich plentyn i:
sefydlu arferion bwyta da, a all barhau gartref
cael y cydbwysedd a’r amrywiaeth iawn o faetholion sydd eu hangen ar gyfer tyfu a datblygu’n iach
mwynhau rhoi cynnig ar fwydydd newydd gyda ffrindiau
dysgu negeseuon cyson am fwyd a diod
lleihau niwed i’w dannedd trwy ddarparu diodydd o laeth a dŵr nad ydynt yn niweidio’r dannedd
datblygu a chynnal pwysau iach
bod yn llai tebygol o ddatblygu anemia diffyg haearn a bod yn rhwym
Mae gan bob darparwr gofal plant sydd wedi’i achredu â gwobr Boliau Bach o leiaf un aelod o staff sydd wedi mynychu hyfforddiant gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd ar faeth plant.
Am restr o ddarparwyr gofal plant â gwobr Boliau Bach yn eich ardal chi ewch i yma
Mae ennill gwobr Arfer Gorau Boliau Bach yn syml. Bydd Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd lleol yn asesu eich bwydlen a’ch polisi bwyd yn erbyn meini prawf sy’n seiliedig ar Ganllawiau Arfer Gorau Llywodraeth Cymru: Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Plant (2018) Bydd asesydd Boliau Bach yn rhoi’r holl gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen i wneud unrhyw newidiadau er mwyn i chi ddod yn lleoliad Boliau Bach achrededig.
-
MYNEGI DIDDORDEB
Cwblhewch ffurflen gais Gwobr Arfer Gorau Boliau Bach i roi gwybod i’ch tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd lleol yr hoffech chi fod yn ddarparwr gofal plant achrededig. Fel arall, anfonwch e-bost i fynegi eich diddordeb yn y cynllun. -
HYFFORDDIANT I STAFF – LLEOLIADAU SY'N CYNNIG PRYDAU BWYD, BYRBRYDAU A DIODYDD
I ddod yn ddarparwr gofal plant sydd wedi’i achredu â gwobr Boliau Bach mae angen i o leiaf un aelod o staff fynychu a chwblhau Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar achrededig Agored Cymru -
FFORDDIANT STAFF – LLEOLIADAU SY'N CYNNIG BYRBRYDAU A DIODYDD YN UNIG
I ddod yn ddarparwr gofal plant sydd wedi’i achredu â gwobr Boliau Bach, mae angen i o leiaf un aelod o staff fynychu a chwblhau Cwrs Bwyta’n Iach ar gyfer Plant Cyn Oed Ysgol BIPBC (a elwir hefyd yn Hyfforddiant Byrbrydau Boliau Bach). Os yw aelod o staff eisoes wedi mynychu’r hyfforddiant hwn, bydd angen iddynt gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy fynychu sesiynau gloywi. -
BWYDLENNI
Er mwyn bodloni meini prawf gwobr Arfer Gorau Boliau Bach mae’n ofynnol i’r lleoliad ddatblygu o leiaf 3 wythnos o fwydlenni tymhorol sy’n bodloni’r safonau maeth. Peidiwch â phoeni os oes angen rhywfaint o waith ar eich bwydlenni i gyflawni’r gofyniad hwn, bydd eich aseswr Boliau Bach yn eich helpu a’ch cefnogi drwy’r broses. -
POLISI
Mae’r polisi bwyta’n iach / polisi bwyd a diod ar gyfer eich lleoliad yn gynllun gweithredu sy’n sicrhau bod pawb yn dilyn arfer gorau a bod y dull o ddarparu bwyd a diod i blant yn gyson. Rhaid i leoliad achrededig Boliau Bach fod â pholisi bwyd a diod gweithredol sy’n cefnogi arferion allweddol megis creu amgylchedd bwyta cadarnhaol. -
HYD
Ar ôl bodloni’r holl safonau gorfodol, mae’r darparwr gofal plant yn derbyn gwobr Arfer Gorau Boliau Bach, sy’n ddilys am gyfnod o 3 blynedd. Mae darparwyr gofal plant achrededig Boliau Bach yn cael eu hychwanegu at gofrestr Boliau Bach. -
DEWIS CYMRU
Gall darparwyr gofal plant arddangos eu hachrediad Arfer Gorau Boliau Bach ar wefan DEWIS. Os yw’r lleoliad eisoes wedi cofrestru gyda DEWIS, bydd eich asesydd Boliau Bach yn diweddaru’ch cofnodion. Yna bydd darpar deuluoedd yn gweld bod eich lleoliad yn cynnig y bwyd a diod gorau posibl i blant. -
AIL-ACHREDU
Tuag at ddyddiad dod i ben y wobr, byddwn yn cysylltu â’r lleoliad i gychwyn y broses ail-achredu. Bydd staff yn cael eu gwahodd i fynychu hyfforddiant gloywi os oes ei angen. Bydd bwydlenni a pholisïau yn cael eu hailasesu yn erbyn y canllaw cyfredol ar yr adeg honno.
Mae dewis y lleoliad gofal plant cywir yn gallu bod yn anodd. Gall y penderfyniad ddibynnu ar ystyriaethau megis lleoliad a chost. Os ydych chi hefyd am iddo fod yn rhywle sy’n darparu bwyd maethlon o safon er mwyn i’ch plentyn dyfu a datblygu’n iach, beth am edrych ar y gofrestr Arfer Gorau Boliau Bach?
Mae dewis lleoliad gofal plant yn benderfyniad hynod o bwysig i’r teulu cyfan. Bydd y darparwrgofal plant cywir yn helpu eich plentyn i ddysgu, cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, yn ogystalâ’u cadw’n ddiogel a bodloni eu holl anghenion o ddydd i ddydd.
Mae gwybod bod y lleoliad y mae rhieni yn ei ystyried yn cynnig bwyd a diod sy’n rhoi’rcydbwysedd cywir o egni a maetholion i’w plentyn er mwyn iddo dyfu a datblygu’n iach, i gadwpwysau iach a’i amddiffyn rhag clefydau penodol yn gallu rhoi tawelwch meddwl i rien.
Mae Gwobr Arfer Gorau Boliau Bach yn dangos bod darparwr gofal plant wedi ymrwymo i iechydeich plentyn ac yn cydymffurfio â Chanllawiau Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal PlantLlywodraeth Cymru (2018). Sut gallwch chi ddarganfod a oes unrhyw leoliadau Boliau Bach neuwarchodwyr plant sy’n agos atoch chi wedi ennill gwobr Boliau Bach?
Cliciwch yma i ymweld â gwefan Dewis Cymru i ddod ohyd i ddarparwyr gofal plant achrededig Boliau Bach yneich ardal chi. Cliciwch ar ‘mireinio’ch chwiliad’ i chwilioam ‘Boliau Bach’ ac i nodi’ch cod post.
Ydych chi’n bwriadu ymweld â lleoliad gofal plant neuwarchodwr plant? Chwiliwch am sticer Boliau Bach ar euffenestr a gofynnwch am gael gweld eu tystysgrif ArferGorau Boliau Bach. Gwnewch yn siŵr eich bod yngwirio’r dyddiad dod i ben ar y dystysgrif i wneud yn siŵrbod y dyfarniad yn ddilys.
Y ffordd orau o ddarganfod a oes gan leoliad gofal plantneu warchodwr plant Wobr Arfer Gorau Boliau Bach ywtrwy wirio’r gofrestr Boliau Bach. Mae tîm Deieteg Iechydy Cyhoedd yn lleol yn rheoleiddio’r gofrestr fel y gallwchfod yn hyderus y bydd bob amser yn ddibynadwy ac yngyfredol.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Gwobr Arfer Gorau Boliau Bach neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau , cysylltwch â’ch Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd lleol.
Gwobr Arfer Gorau ar gyfer darparwyr gofal plant Blynyddoedd Cynnar yng Ngogledd Cymru yw Boliau Bach.
Mae’r wobr, a roddir gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd y GIG, yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth o ran darparu bwyd a diod sy’n bodloni canllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae dau gategori: un ar gyfer bwyd a maeth i blant 1-4 oed a gwobr newydd ar gyfer plant 0-1 oed.
Mae cyflwyno bwydydd addas i fabanod yn bwysig ar gyfer eu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac i sicrhau eu bod yn cael digon o faeth. Mae anghenion maethol babanod yn tyfu wrth i fabanod dyfu. Ar ôl tua 6 mis, mae babanod yn tyfu ac yn datblygu’n gyflym ac mae angen mwy o egni a maetholion arnynt nag y gall llaeth yn unig ei roi. Mae angen iddynt ddechrau bwyta bwydydd solet i fodloni eu hanghenion. Mae’n amser pwysig i gyflwyno amrywiaeth o flasau ac ansawdd bwyd i fabanod wrth iddynt gychwyn ar eu taith at fwyta prydau iach y teulu. Am ragor o wybodaeth am gyflwyno bwydydd solet, ewch i adran ‘Chi a’ch Babi’ yn Hwb Cychwyn Gorau BIPBC.
Mae darparwyr gofal plant yn chwarae rhan ganolog yn y ffordd y mae babanod yn cael eu cyflwyno i fwyd, a all bennu arferion bwyta yn y dyfodol ac felly, iechyd yn y dyfodol. Trwy gynnig bwyd maethlon ac annog babanod i fwyta’n dda, gall lleoliadau helpu plant i fodloni eu hanghenion maethol a chynnal pwysau iach wrth iddynt dyfu. Os yw babanod yn dechrau bwyd solet pan fyddant yn mynychu lleoliad, mae’n hanfodol bod gofalwyr yn gweithio’n agos gyda theuluoedd i sicrhau bod cysondeb rhwng arferion y cartref a’r lleoliad. Bydd cyfathrebu da ac arfer diogel yn helpu i gefnogi’r daith hon i’w gwneud yn brofiad llyfnach a mwy pleserus i bawb.
I gael rhagor o wybodaeth am y Wobr Arfer Gorau Boliau Bach ar gyfer plant 0-1 oed ac 1-4 oed, ewch i yma.