Blynyddoedd Cynnar

Mae Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur ar gael i feithrinfeydd dydd, grwpiau Dechrau’n Deg, cylchoedd chwarae, meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a chlybiau ar ôl ysgol. Mae’r wobr hon yn rhoi cydnabyddiaeth pan ddarperir byrbrydau o safon mewn lleoliadau, ac mae bod yn rhan o’r cynllun yn dangos ymrwymiad i iechyd plant ac yn annog arferion bwyta da.

Mae’n dangos bod lleoliad yn dilyn yr argymhellion a wneir yng Nghanllawiau Arfer Gorau Bwyd a Maeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant.

Er mwyn enill y wobr hon, mae angen cyrraedd meini prawf penodol yn y meysydd canlynol: darparu byrbrydau a diodydd iach, amgylchedd bwyta cadarnhaol, hylendid bwyd a diogelwch. Mae gwobr lefel uwch yn rhan o’r cynllun hefyd, o’r enw Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur Uwch (gweler isod). Mae hyn yn cydnabod bod o leiaf un aelod o staff wedi cwblhau a chyflawni’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar neu’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol.

Mae’r cynllun yn cynnwys lefel uwch o’r wobr o’r enw Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur Uwch (Gweler isod).

Cliciwch ar y llyfryn i gael rhagor o wybodaeth am y wobr.

Dyma gynllun gwobr lefel uwch ar gyfer lleoliadau sydd eisoes wedi ennill Safon Aur Gwobr Byrbrydau Iach.

Mae’n cydnabod bod o leiaf un aelod o staff wedi cwblhau a chyflawni’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar neu’r Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol.

Cefnogir y Wobr hon gan nifer o fyrddau iechyd – am fwy o wybodaeth ewch i’r adran’Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?‘.

Mae Boliau Bach / Tiny Tums yn ddyfarniad Arfer Gorau ar gyfer lleoliadau gofal plant y Blynyddoedd Cynnar yng Ngogledd Cymru, a chaiff ei reoli gan Dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd BIPBC. Mae’r dyfarniad yn cydnabod ac yn gwobrwyo lleoliadau sy’n defnyddio arfer gorau wrth ddarparu bwyd a diod i blant rhwng 1-4 oed, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (2018).

I fod yn gymwys ar gyfer y dyfarniad, mae’n ofynnol i o leiaf un aelod o staff y lleoliad fod wedi cwblhau’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar (lefel 2) Ar ôl hyn, mae lleoliadau’n gymwys i wneud cais am y dyfarniad Boliau Bach gan gyflwyno eu bwydlenni, eu polisi bwyd a rhestr wirio bwydlen Boliau Bach i’r tîm dieteg.

Rhoddir adborth a chyngor adeiladol i gefnogi lleoliadau i gyflawni’r dyfarniad. Dyfernir tystysgrif Arfer Gorau a sticer ffenestr Boliau Bach i’r lleoliadau llwyddiannus, ac mae’n ddilys am 3 blynedd. Anogir lleoliadau i arddangos eu tystysgrifau ac i sôn wrth rieni a phlant am eu llwyddiant.

Adborth Boliau Bach gan leoliadau a rhieni:

“Rwy’n hoffi sut mae’r plant yn cael amrywiaeth o ‘brydau bwyd oedolion’ i’w helpu i feithrin hoffter o ystod amrywiol o flasau”

Rhiant plentyn yn un o leoliadau Boliau Bach

“Mae gen i deimladau cryf am ddeiet plant, mae’n bwysig ar gyfer eu twf a’u datblygiad. Mae’r fwydlen newydd yn lliwgar a’n llawn gweadau gwahanol, ac mae’r plant yn mwynhau eu bwyta a’u harchwilio”

Rheolwr cynorthwyol mewn lleoliad Boliau Bach

Gyda chymorth y Dietegwyr rydym yn hyderus bod ein bwydlen yn diwallu anghenion ein plant yn ogystal â bod yn flasus”

Rheolwr Meithrin

Gallwn ddarparu hyfforddiant a chymorth ymarferol i leoliadau gofal plant i’w helpu i weithredu’r canllawiau arfer gorau. Mae rhagor o wybodaeth am y canllawiau ar gael yma.

Website design by Celf Creative

Skip to content