Boliau Bach / Tiny Tums
Mae Boliau Bach / Tiny Tums yn wobr Arfer Gorau ar gyfer lleoliadau gofal plant y Blynyddoedd Cynnar yng Ngogledd Cymru, a chaiff ei reoli gan Dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd BIPBC. Mae’r wobr yn cydnabod ac yn gwobrwyo lleoliadau sy’n defnyddio arfer gorau wrth ddarparu bwyd a diod i blant rhwng 1-4 oed, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae Boliau Bach / Tiny Tums yn wobr Arfer Gorau ar gyfer lleoliadau gofal plant y Blynyddoedd Cynnar yng Ngogledd Cymru, a chaiff ei reoli gan Dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd BIPBC. Mae’r wobr yn cydnabod ac yn gwobrwyo lleoliadau sy’n defnyddio arfer gorau wrth ddarparu bwyd a diod i blant rhwng 1-4 oed, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (2018).
I fod yn gymwys ar gyfer y wobr, mae’n ofynnol i o leiaf un aelod o staff y lleoliad fod wedi cwblhau’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar (lefel 2). Ar ôl hyn, mae lleoliadau’n gymwys i wneud cais am y wobr Boliau Bach, gan gyflwyno eu bwydlenni, eu polisi bwyd a rhestr wirio bwydlen Boliau Bach i’r tîm dieteg. Darperir adborth a chyngor adeiladol i gefnogi lleoliadau i ennill y dyfarniad. Rhoddir tystysgrif Arfer Gorau a sticer ffenestr Boliau Bach i’r lleoliadau llwyddiannus, ac maent yn ddilys am 3 blynedd. Anogir lleoliadau i arddangos eu tystysgrifau ac i rannu eu llwyddiant gyda rhieni a phlant.