Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy
Mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu fel estyniad i Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru a’r Wobr Ansawdd Genedlaethol. Mae ganddo wyth cam penodol:
- 1. Cyfnod rhagarweiniol
- 2. Maeth ac iechyd y geg
- 3. Gweithgarwch corfforol/chwarae egnïol
- 4. Iechyd meddwl ac emosiynol
- 5. Lles a pherthnasoedd, yr amgylchedd
- 6. Diogelwch
- 7. Hylendid
- 8. Iechyd a lles yn y gweithle
Mae adran maeth ac iechyd y geg y cynllun yn adlewyrchu dull gweithredu lleoliad cyfan o ran bwyd, maeth ac iechyd y geg, gan hyrwyddo deiet cytbwys iach yn seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol cyfredol ac arfer da mewn perthynas ag iechyd y geg.
Cynllun Gwên
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chynllun Gwên, sef rhaglen iechyd y geg Cymru gyfan.
Mae’r Cynllun Gwên yn Rhaglen Genedlaethol wedi’i thargedu at Wella Iechyd y Geg. Ei riphf ffocws yw gwella iechyd deintyddol plant yng Nghymru.
Mae gwefan y rhaglen yn darparu adnodd cenedlaethol defnyddiol ar gyfer timau deintyddol, rhieni, athrawon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill
Sut gallwn ni helpu?
Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar Cymunedol yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau maeth y mae staff yn y lleoliadau hyn eu hangen i weithredu camau maeth y cynllun yn llawn. Mae’r Wobr Byrbrydau Iach Safon Aur a Thystysgrif Arfer Gorau Boliau Bach wedi’u halinio â’r asesiad maeth ac iechyd y geg a gallent helpu lleoliadau i gyflawni’r meini prawf hyn.