Hyfforddiant maeth i nyrsys ysgol a sesiynau diweddaru
Nod yr hyfforddiant hwn yw darparu gwybodaeth gyfredol am faeth a bwyd ar gyfer phlant a phobl ifanc oed ysgol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan hyrwyddo arferion iach o ran bwyta a gweithgarwch corfforol a chyfrannu at atal ac ymyrryd yn gynnar â gordewdra plant. Mae’r dysgu’n adeiladu ar gynnwys sesiynau maeth Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol, gan gynnwys sut i grybwyll pwysau mewn modd sensitif a phriodol, ac mae’n darparu ffynonellau cymorth defnyddiol i deuluoedd fel rhan o strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. (Ddim ar gael ym mhob rhan o Gymru).