Hyfforddiant Maeth i Ymwelwyr Iechyd Cofrestredig
Nod yr hyfforddiant hwn yw darparu gwybodaeth am fwyd a maeth sy’n gyfredol ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a beichiogrwydd, gan hyrwyddo arferion iach o ran bwyta a bod yn egnïol o fewn teuluoedd, a chyfrannu at ymyrraeth gynnar ac atal gordewdra ymhlith plant. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys hanner diwrnod o drafod negeseuon bwyd a maeth a hanner diwrnod i drafod ‘Sut i grybwyll pwysau’ mewn ffordd briodol a sensitif.
Amcanion Dysgu
Mae’r dysgu yn adeiladu ar gynnwys sesiynau maeth SCPHN ac yn cynnwys:
- Archwilio’r berthynas rhwng gordewdra mamau/rhieni a phlant
- Gwerthuso ystod eang o negeseuon bwyta’n dda a phwysau iach sy’n addas i deuluoedd
- Egluro’r argymhellion bwyd a maeth cyfredol ar gyfer menywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron
- Egluro’r canllawiau presennol o ran atchwanegiadau fitaminau a mwynau yn ystod beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar
- Gwerthuso dulliau cyfredol o fwydo ategol a’r sylfaen dystiolaeth gysylltiedig
- Trafod sut i grybwyll y mater o bwysau, ac i siarad am y risgiau sy’n gysylltiedig â bod dros bwysau, mewn ffordd sensitif a phriodol
Adborth gan gyfranogwyr
”Rwy’n teimlo’n fwy hyderus nawr pan fyddaf yn gwneud ymweliadau i siarad am fwydo, maeth, siartiau twf a diddyfnu’
”Perthnasol iawn a defnyddiol wrth roi cyngor i rieni’
”Sesiwn dda iawn, dysgais lawer o bethau i’w defnyddio yn fy ngwaith bob dydd’
”Rwy’n fwy hyderus wrth ddarparu cyngor sydd wedi’i deilwra i anghenion teuluoedd. Diolch’
‘Byddaf yn defnyddio’r wybodaeth hon yn ddyddiol wrth ymweld â theuluoedd a phan fyddaf yn monitro twf a datblygiad mewn clinigau iechyd plant’