Hyfforddiant Cyn Cofrestru
Rydym yn gweithio gydag Addysgwyr Bydwreigiaeth Arweiniol y Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru sy’n cynnig cyrsiau gradd Bagloriaeth mewn Bydwreigiaeth er mwyn ymgorffori negeseuon maeth iechyd y cyhoedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth a sgyrsiau am ffyrdd iach o fyw o fewn y cwricwlwm cyn cofrestru. Mae’r cynllun gwaith hwn yn cynnwys un sesiwn 3 awr ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs tair blynedd.
Amcanion Dysgu
Erbyn diwedd y sesiynau hyn byddwch yn gallu:
- Disgrifio cydrannau deiet cytbwys.
- Egluro sut mae maeth da o fudd i iechyd a lles mam a’i baban.
- Nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar ddewisiadau bwyd.
- Disgrifio’r anghenion maethol sy’n benodol i feichiogrwydd a bwydo o’r fron.
- Amlinellu’r argymhellion presennol ar gyfer atchwanegiadau fitaminau a mwynau rheolaidd yn ystod beichiogrwydd.
- Trafod risgiau gordewdra yn ystod beichiogrwydd.
- Archwilio’r ffactorau sy’n cyfrannu at reoli pwysau a lles.
- Gwerthuso’r argymhellion a’r canllawiau ar gyfer mesur pwysau, a rheoli cynnydd mewn pwysau yn ystod beichiogrwydd.
- Dangos sut i drafod pwnc pwysau, a siarad am y risgiau o fagu gormod o bwysau yn ystod beichiogrwydd.
- Defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y claf i alluogi menywod i newid eu ffordd o fyw.
Adborth gan gyfranogwyr
‘Addysgiadol a diddorol iawn, mae wedi gwneud i mi fod eisiau newid fy neiet fy hun!’
‘Roedd y gweithgareddau’n dda ac yn ein hysgogi i feddwl’
‘Llawer o wybodaeth werthfawr i’w ddefnyddio yn y dyfodol’
‘Bydd yn ddefnyddiol wrth roi cyngor i fenywod yn y dyfodol, ac mae hefyd yn fy ysgogi i wneud rhai newidiadau’
‘Sesiwn addysgiadol iawn, gwnes i fwynhau, a byddaf yn ei drosglwyddo i fenywod’
‘Roedd y gweithdy MI yn hollol wych o ran ein helpu i drafod pynciau sensitif gyda menywod’