Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol

Lefel 2

Os ydych chi’n gweithio gydag unigolion, teuluoedd neu grwpiau cymunedol ac yn awyddus i drosglwyddo negeseuon bwyd a maeth cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth i eraill ac i gyflwyno cyrsiau sgiliau bwyd a maeth achrededig lefel 1, dyma’r cwrs i chi! Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ym meysydd bwyd a maeth ac yn rhoi syniadau ac adnoddau i chi eu defnyddio gyda grwpiau cymunedol i’w cefnogi i fwyta’n dda.

Mae 10 sesiwn, a gyflwynir fel arfer fel un sesiwn yr wythnos am 10 wythnos. Gellir cyflwyno cyrsiau mewn 2 ffordd, naill ai:

  • wyneb yn wyneb ar ffurf sesiwn addysgu grŵp wythnosol 2 awr o hyd mewn lleoliad cymunedol, gydag awr o waith cartref, neu
  • fel sesiwn dysgu digidol hunangyfeiriedig 2 awr o hyd, gyda sesiwn grŵp rhithwir wythnosol 1 awr o hyd gyda dietegydd. Mae’r sesiynau’n trafod y pynciau canlynol:
SesiwnCynnwys
1Canllawiau bwyta’n iach a’r Canllaw Bwyta’n Dda
2Maeth ac iechyd
3Rheoli pwysau’n iach
4Ffactorau sy’n effeithio ar ddewis bwyd a bwyta’n dda ar gyllideb gyfyngedig
5Rhwystrau deiet iach a helpu pobl i newid eu hymddygiad bwyta
6Labeli bwyd
7Maeth ar gyfer grwpiau poblogaeth penodol: e.e. babanod, plant, menywod beichiog, oedolion hŷn (dewis 2 grŵp) Grŵp 1
8 Maeth ar gyfer grwpiau poblogaeth penodol: Grŵp 2
9Cynllunio bwydlenni ac addasu ryseitiau
10Ffeithiau a mythau bwyd ac adnoddau bwyd a maeth defnyddiol

Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol wedi’i osod ar lefel dau ac mae’n werth tri chredyd (30 awr ddysgu dan arweiniad). Mae achrediad yn dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni ac i gael credyd mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am faeth, nid oes unrhyw arholiadau na thraethodau i boeni amdanyn nhw, ond i brofi eich bod wedi bodloni’r meini prawf asesu bydd gofyn i chi gwblhau portffolio o dystiolaeth ar gyfer asesu. Mae mynychu’r sesiynau hefyd yn rhan bwysig o’r asesiad.

Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs a bydd cymorth ar gael ar ôl y cwrs i’r rhai sydd am roi eu dysgu ar waith e.e. i weithredu a bodloni elfen bwyd a maeth y Cynllun Ysgolion Iach a’r Wobr Ansawdd Genedlaethol; cyflwyno’r sesiynau addysg maeth Bwyd a Hwyl; i ddarparu rhaglenni Bwyd Doeth am Oes neu Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd yn y gymuned neu i gyflwyno ac asesu’r cyrsiau Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol lefel 1 achrededig, Dechrau Coginio neu Dewch i Goginio.


Adborth gan gyfranogwyr

“O’r wythnos gyntaf, roeddwn i’n gwybod bod angen i mi wneud newidiadau.”

“Pan fyddwch chi ar y cwrs gyda’r menywod eraill, rydych chi’n ei ymgorffori’r wybodaeth, felly mae’n rhoi’r cymhelliant i chi fynd ati i’w wneud”.

“Gallwch gael cymaint o’r we, ond yn amlwg, trwy wneud cwrs fel yna, wyneb yn wyneb, rydych chi’n tueddu i gael gwell dealltwriaeth”.

“Rydw i wedi dysgu pwysigrwydd deiet cytbwys a sut y gallaf ei ddarparu i blant Cyfnod Allweddol 2 mewn ffordd sy’n ennyn eu diddordeb a’u brwdfrydedd.”

“Roedd yn gwrs hyfryd, gyda gwybodaeth a phrofiadau da, yn ogystal â staff cyfeillgar hyfryd”

Website design by Celf Creative

Skip to content