Cymru Iach ar Waith
Amdanom ni
Mae Cymru Iach ar Waith (CIW) yn rhaglen genedlaethol rad ac am ddim sy’n ceisio gwella iechyd ac atal iechyd gwael ymhlith y boblogaeth oedran gweithio drwy weithio gyda chyflogwyr a gweithleoedd yng Nghymru a thrwyddynt. Ariennir CIW gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n ei darparu.
Mae CIW yn cefnogi cyflogwyr i wneud y canlynol:
- Creu amgylcheddau ac arferion gweithio iach a diogel.
- Cymryd camau i wella iechyd a llesiant eu staff a hybu ymddygiad iach.
- Atal a rheoli absenoldeb salwch a chymorth i ddychwelyd i’r gwaith yn effeithiol er mwyn atal pobl rhag bod yn absennol o’r gwaith oherwydd iechyd gwael.
- Cefnogi’r rhai â chyflyrau cronig i aros yn y gwaith.
- Cymryd agwedd ragweithiol at recriwtio pobl anabl i’r gweithlu.
Sut Rydym yn Gwneud Hyn
Rydym yn darparu cynnig digidol i gyflogwyr sy’n cynnwys dull hunan-gyfeiriedig tuag at iechyd a llesiant gweithwyr a’r gweithle, gan gynnwys:
- Cynnwys gwefan gyda gwybodaeth, cyngor, buddion buan, adnoddau a chyfeiriadau at ystod eang o bynciau
- Offer cynllunio at weithredu, astudiaethau achos, podlediadau
- Ymchwil a mewnwelediadau cyflogwyr i lywio cynhyrchion a chynlluniau (adroddiadau ar gael ar wefan CIW)
- Adnoddau hyfforddi a datblygu hygyrch ar amrywiaeth o bynciau, er enghraifft:
- Cyflyrau cyhyrysgerbydol
- Rheoli absenoldeb oherwydd salwch
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) â ffocws penodol ar anabledd
- Straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu:
- Offer arolygon digidol ac adroddiadau awtomataidd:
- Offeryn arolwg cyflogwyr i fesur safle gwaelodlin y sefydliad mewn perthynas ag iechyd a llesiant staff a pharodrwydd i weithredu a nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu
- Offeryn arolwg gweithwyr i sicrhau mewnbwn gan weithwyr ac i nodi anghenion iechyd a llesiant gweithwyr
- Meithrin galluedd trwy raglen fentora ynghyd â rhwydwaith o Hyrwyddwyr Iechyd yn y Gweithle
Bwyta’n Iach
Mae hybu a normaleiddio ymddygiad iach, gan gynnwys bwyta’n iach, yn gyfrifoldeb pwysig i gyflogwyr. Mae hyn o fudd i iechyd corfforol a meddyliol gweithwyr. Mae’n hybu cynhyrchiant ac yn meithrin diwylliant cadarnhaol yn y gweithle. Gall cyflogwyr gael effaith sylweddol ar lesiant cyffredinol eu gweithlu trwy strategaethau fel:
- Rhannu gwybodaeth
Rhannu gwybodaeth am ddeiet iach a bwyta’n iach, er enghraifft ar y fewnrwyd, mewn cylchlythyrau staff a thrwy gynnal gweithdai.
- Normaleiddio bwyta’n iach
Annog bwyta’n iach trwy hyrwyddo dewisiadau bwyd iach a’u gwneud yn hawdd eu cyrchu.
- Annog ymgyrchoedd a chymorth gan gymheiriaid
Gall ymgyrchoedd ddefnyddio gweithdai, deunyddiau addysgiadol, ac wythnosau thematig i addysgu gweithwyr ar faeth a hyrwyddo dewisiadau iach. Mae cymorth gan gymheiriaid, trwy systemau cyfeillio, grwpiau cymorth, a heriau tîm yn gwneud cydweithwyr yn atebol ac yn eu hannog.
- Darparu opsiynau bwyd iach
Sicrhau bod ffreuturiau, peiriannau gwerthu a digwyddiadau sy’n cael eu harlwyo yn cynnig opsiynau bwyd iach.
- Cynnig cymhellion
Cynnig cymhellion ar gyfer dewis prydau iachach, megis gostyngiadau ar eitemau bwyd iach.
Gan fod pobl yn bwyta o leiaf draean o’u calorïau dyddiol yn y gwaith, mae eu deietau yn effeithio’n uniongyrchol ar eu hiechyd a’u perfformiad yn y swydd. Os na fydd gweithwyr yn cael prydau cyson a chytbwys a digon o ddŵr, gallant ddioddef pennau tost, teimlo’n ddiegni a’i chael hi’n anodd canolbwyntio.
Mae cyflogwyr yn chwarae rhan ganolog o ran hyrwyddo a normaleiddio bwyta’n iach trwy rannu gwybodaeth am faeth, trefnu gweithgareddau llesiant a datblygu diwylliant cefnogol yn y gweithle sy’n pwysleisio llesiant cyfannol y tu hwnt i ddewisiadau bwyd.
Rhagor o wybodaeth
Gall Cymru Iach ar Waith gefnogi cyflogwyr gyda syniadau ar gyfer hybu ac annog bwyta’n iach. Am ragor o wybodaeth, arweiniad ac adnoddau, ewch i’r dudalen Bwyta’n Iach ar ein gwefan.
Mae Pwysau Iach Byw’n Iach yn cynnig ystod o wybodaeth ac adnoddau sydd wedi’u teilwra i anghenion unigolion. Mae’r offeryn ‘Dod o Hyd i’ch Siwrnai’ yn galluogi unigolion i ddod o hyd i’r datrysiadau cywir ar gyfer cyflawni a chynnal pwysau iach, er mwyn rhoi’r siawns orau iddynt o lwyddo.
Rhagor o wybodaeth
E-bostiwch ni: [email protected]
Cofrestrwch ar gyfer e-fwletin misol HWW i dderbyn diweddariadau a dolenni i adnoddau ac ymgyrchoedd newydd.
Follow us on social media:
- X: @Healthywork_HWW
- Facebook: @HealthyWorkingWales
- Instagram: @HealthyWorkingWales
- LinkedIn: @Healthy Working Wales / Cymru Iach Ar Waith
- Gwrandewch ar ein podlediadau ar YouTube