Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer Blynyddoedd Cynnar

Lefel 2

Os ydych chi’n gweithio yn y gymuned gyda phlant ifanc a’u teuluoedd e.e. gwarchodwyr plant, gweithwyr chwarae, ymarferwyr gofal plant, y rhai sy’n hyfforddi ac yn cefnogi lleoliadau gofal plant a staff Dechrau’n Deg, dyma’r cwrs i chi. Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ym maes bwyd a maeth i blant ifanc, ac mae’n arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n paratoi prydau bwyd neu fyrbrydau ac sy’n ymwneud â chynllunio bwydlenni. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu trosglwyddo gwybodaeth gyson ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r teuluoedd a’r plant rydych chi’n gweithio gyda nhw.

Mae 6 sesiwn, a gyflwynir fel arfer fel un sesiwn yr wythnos am 6 wythnos. Fodd bynnag, gellir cyflwyno cyrsiau mewn nifer o wahanol ffyrdd yn ôl yr angen,

er enghraifft; 2 ffordd, naill ai:

  • wyneb yn wyneb ar ffurf sesiwn addysgu grŵp wythnosol 2 awr o hyd mewn lleoliad cymunedol, gydag awr o waith cartref, neu
  • fel sesiwn dysgu digidol hunangyfeiriedig 2 awr o hyd, gyda sesiwn grŵp rithwir wythnosol 1 awr o hyd gyda dietegydd,

Mae’r sesiynau’n ymdrin â’r pynciau canlynol

SesiwnCynnwys
1Deall egwyddorion deiet cytbwys
2Deall manteision maeth da a hydradu yn y blynyddoedd cynnar (Rhan 1)
3Deall manteision maeth da a hydradu yn y blynyddoedd cynnar (Rhan 2)
4Maeth ym mlwyddyn gyntaf bywyd a chyflwyno bwydydd solet
5Deall sut i roi maeth a hydradiad da ar waith yn y blynyddoedd cynnar a chynllunio bwydlenni
6Hyrwyddo maeth a hydradu fel rhan o’ch gwaith eich hun

Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar wedi’i osod ar lefel dau ac mae’n werth dau gredyd (20 awr ddysgu dan arweiniad). Mae achrediad yn dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni ac i gael credyd mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am faeth, nid oes unrhyw arholiadau na thraethodau i boeni amdanyn nhw, ond i brofi eich bod wedi bodloni’r meini prawf asesu bydd gofyn i chi gwblhau portffolio o dystiolaeth ar gyfer asesu. Mae mynychu’r sesiynau hefyd yn rhan bwysig o’r asesiad.

Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs a bydd cymorth ar gael ar ôl y cwrs i’r rhai sydd am roi eu dysgu ar waith e.e. i weithredu Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur a Thystysgrif Arfer Gorau Boliau Bach/Tiny Tums; i ddatblygu polisi bwyd ar gyfer eu lleoliad; i fodloni gofynion Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur Uwch; i fodloni meini prawf maeth ac iechyd y geg y Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy neu i weithredu’r Canllawiau Arfer Gorau ar gyfer Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Plant.


Adborth gan gyfranogwyr

“Mae’r hyfforddiant hwn wedi bod yn fuddiol iawn, a daeth y staff yn ôl yn llawn syniadau.”

“Rydyn ni wedi defnyddio’r wybodaeth i newid ein bwydlenni yn y feithrinfa ac i ddiweddaru ein polisi bwyd. Byddwn yn bendant yn argymell y cwrs hwn i gydweithwyr sydd heb fod arno – Diolch!”

“Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr iawn. Rwy’n edrych ar labeli bwyd trwy’r adeg nawr!”

Website design by Celf Creative

Skip to content