Canolbwyntio ar atal

Mae Dietegwyr Iechyd y Cyhoedd a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd eraill yn angerddol dros gefnogi pobl i wneud newidiadau i’w ffyrdd o fyw a all eu helpu i fod mor ffit ac iach ag sy’n bosibl, a hynny gyhyd ag y bo modd. Mae atal yn well na gwella, a gall newidiadau bach a realistig o ran ffordd o fyw wneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd a’n lles yn y tymor hwy. Bydd bwyta deiet iach a chytbwys ynghyd â bod yn egnïol, peidio ag ysmygu, a chadw o fewn y symiau a argymhellir o ran alcohol os ydych yn ei yfed, i gyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd hirdymor.

Gwneud y gorau o bob Cysylltiad

Website design by Celf Creative

Skip to content