Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (WNHSS) a’r Wobr Ansawdd Genedlaethol (NQA)

Mae Cynllun Ysgolion Iach Llywodraeth Cymru a’r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn cynnwys wyth maes gweithredu y mae’n rhaid i ysgolion eu cyflawni i dderbyn y wobr: maeth, gweithgarwch corfforol, datblygiad personol a pherthnasoedd, defnydd a chamddefnydd sylweddau, iechyd a lles meddyliol ac emosiynol, yr amgylchedd, diogelwch, a hylendid.

Sut gallwn ni helpu?

Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol yn rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i gydlynwyr ysgolion iach i asesu camau gweithredu bwyd a maeth ac i ddarparu negeseuon bwyd a maeth cyson ar gyfer plant a phobl ifanc oed ysgol. Mae’n cefnogi ymagwedd ysgol gyfan at fwyd a maeth ac yn cyfrannu at wella a chynnal iechyd a lles maethol holl gymuned yr ysgol.

Website design by Celf Creative

Skip to content