Cydweithfa fwyd
Mae cydweithfeydd bwyd yn ffordd o brynu bwyd ffres sydd wedi’i dyfu’n lleol am lai o arian. Gall cydweithfeydd bwyd yn y gymuned ei gwneud yn haws i bobl ar incwm isel, neu’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd heb lawer o siopau, gael gafael ar ffrwythau a llysiau mwy fforddiadwy. Mae Sustain wedi cynhyrchu adnodd ar-lein, ‘Pecyn Cymorth Cydweithfeydd Bwyd’, sy’n egluro sut i ddechrau busnes.