Canllawiau Arfer Gorau: Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant
Mae Canllawiau Arfer Gorau: Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn helpu lleoliadau i gefnogi plant i fwyta’n dda, i ddarparu bwyd sydd o ansawdd rhagorol ac sy’n bodloni’r rheoliadau gofal plant ar gyfer bwyd a diod, ac i hysbysu rhieni eu bod yn cynnig y dechrau gorau i’w plant.
Mae hwn yn adnodd ymarferol a hawdd ei ddefnyddio sy’n cynnwys bwydlenni a ryseitiau enghreifftiol. Mae’n rhan o strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach a fydd yn ceisio cefnogi ymddygiad deietegol cadarnhaol o fewn y blynyddoedd cynnar.
Sut gallwn ni helpu?
Mae’r cwrs Bwyd Cymunedol a Sgiliau Maeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur, a Thystysgrif Arfer Gorau Boliau Bach i gyd yn cyd-fynd â’r ddogfen hon, yn adlewyrchu’r canllawiau yn ymarferol ac yn cefnogi’r broses o’i gweithredu.