Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol
Lefel 2
Os ydych chi’n gweithio gydag unigolion, teuluoedd neu grwpiau cymunedol ac yn awyddus i drosglwyddo negeseuon bwyd a maeth cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth i eraill ac i gyflwyno cyrsiau sgiliau bwyd a maeth achrededig lefel 1, dyma’r cwrs i chi! Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ym meysydd bwyd a maeth ac yn rhoi syniadau ac adnoddau i chi eu defnyddio gyda grwpiau cymunedol i’w cefnogi i fwyta’n dda.
Mae 10 sesiwn, a gyflwynir fel arfer fel un sesiwn yr wythnos am 10 wythnos. Gellir cyflwyno cyrsiau mewn 2 ffordd, naill ai:
- wyneb yn wyneb ar ffurf sesiwn addysgu grŵp wythnosol 2 awr o hyd mewn lleoliad cymunedol, gydag awr o waith cartref, neu
- fel sesiwn dysgu digidol hunangyfeiriedig 2 awr o hyd, gyda sesiwn grŵp rhithwir wythnosol 1 awr o hyd gyda dietegydd. Mae’r sesiynau’n trafod y pynciau canlynol:
Sesiwn | Cynnwys |
---|---|
1 | Canllawiau bwyta’n iach a’r Canllaw Bwyta’n Dda |
2 | Maeth ac iechyd |
3 | Rheoli pwysau’n iach |
4 | Ffactorau sy’n effeithio ar ddewis bwyd a bwyta’n dda ar gyllideb gyfyngedig |
5 | Rhwystrau deiet iach a helpu pobl i newid eu hymddygiad bwyta |
6 | Labeli bwyd |
7 | Maeth ar gyfer grwpiau poblogaeth penodol: e.e. babanod, plant, menywod beichiog, oedolion hŷn (dewis 2 grŵp) Grŵp 1 |
8 | Maeth ar gyfer grwpiau poblogaeth penodol: Grŵp 2 |
9 | Cynllunio bwydlenni ac addasu ryseitiau |
10 | Ffeithiau a mythau bwyd ac adnoddau bwyd a maeth defnyddiol |
Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol wedi’i osod ar lefel dau ac mae’n werth tri chredyd (30 awr ddysgu dan arweiniad). Mae achrediad yn dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni ac i gael credyd mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am faeth, nid oes unrhyw arholiadau na thraethodau i boeni amdanyn nhw, ond i brofi eich bod wedi bodloni’r meini prawf asesu bydd gofyn i chi gwblhau portffolio o dystiolaeth ar gyfer asesu. Mae mynychu’r sesiynau hefyd yn rhan bwysig o’r asesiad.
Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs a bydd cymorth ar gael ar ôl y cwrs i’r rhai sydd am roi eu dysgu ar waith e.e. i weithredu a bodloni elfen bwyd a maeth y Cynllun Ysgolion Iach a’r Wobr Ansawdd Genedlaethol; cyflwyno’r sesiynau addysg maeth Bwyd a Hwyl; i ddarparu rhaglenni Bwyd Doeth am Oes neu Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd yn y gymuned neu i gyflwyno ac asesu’r cyrsiau Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol lefel 1 achrededig, Dechrau Coginio neu Dewch i Goginio.
Adborth gan gyfranogwyr
“O’r wythnos gyntaf, roeddwn i’n gwybod bod angen i mi wneud newidiadau.”
“Pan fyddwch chi ar y cwrs gyda’r menywod eraill, rydych chi’n ei ymgorffori’r wybodaeth, felly mae’n rhoi’r cymhelliant i chi fynd ati i’w wneud”.
“Gallwch gael cymaint o’r we, ond yn amlwg, trwy wneud cwrs fel yna, wyneb yn wyneb, rydych chi’n tueddu i gael gwell dealltwriaeth”.
“Rydw i wedi dysgu pwysigrwydd deiet cytbwys a sut y gallaf ei ddarparu i blant Cyfnod Allweddol 2 mewn ffordd sy’n ennyn eu diddordeb a’u brwdfrydedd.”
“Roedd yn gwrs hyfryd, gyda gwybodaeth a phrofiadau da, yn ogystal â staff cyfeillgar hyfryd”