Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion
Mae ysgolion yn lleoedd delfrydol i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gydol oes. Mae strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn nodi ‘bydd y lleoliadau lle rydym yn dysgu, yn gweithio ac yn byw yn amgylcheddau cadarnhaol a fydd yn hyrwyddo bwyd iachach, yn addysgu plant a phobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr’ (LlC 2019).
Mae hyn yn cael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth o ran darparu bwyd ysgol yng Nghymru. Rhaid i’r bwyd a diod a ddarperir ym mhob ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol fodloni Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013 (‘Rheoliadau’). Mae’r Rheoliadau’n nodi safonau maeth ar gyfer cinio ysgol arferol yn ogystal â
Sut gallwn ni helpu?
Gallwn ddarparu hyfforddiant a chymorth ymarferol i alluogi ysgolion i ddatblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â bwyd; i sefydlu camau gweithredu a arweinir gan gymheiriaid, megis Grwpiau Gweithredu Maeth Ysgol; i ddarparu gwybodaeth am fwyd a maeth sy’n gyson ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y cwricwlwm newydd, ac i gefnogi ysgolion i weithredu ac i fodloni’r rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion fel sy’n ofynnol o fewn fframwaith arolygu Estyn.