Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd

Helo a chroeso i dudalen Tîm Deietegol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym yn dîm o Ddeietegwyr Cofrestredig ac ymarferwyr cynorthwyol deietegol sy’n gweithio o fewn Gwasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid a sefydliadau o feysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Addysg a’r Trydydd Sector, gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i gefnogi a datblygu mentrau newydd sy’n ymwneud â bwyta’n iach.

Rydym yn dehongli gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ar bolisïau a chanllawiau perthnasol ac yn ei droi’n wybodaeth ymarferol y gall y cyhoedd a grwpiau cymunedol ei defnyddio er budd eu hiechyd a’u lles maeth. Mae llawer o’n gwaith yn mynd i’r afael â chamsyniadau ynghylch bwyd a maeth, gan helpu ein cymunedau i gynllunio, i goginio ac i fwyta prydau iach a chytbwys gan ystyried cynaliadwyedd.

Rydym yn canolbwyntio ar

  • Gyfleu negeseuon iechyd cyhoeddus allweddol am faeth.
  • Darparu cyrsiau/ addysg achrededig wedi’u safoni ar fwyd a maeth.
  • Cefnogi’r gwaith o ddarparu bwyd a diod iach mewn lleoliadau cymunedol.

Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?

Website design by Celf Creative

Skip to content