Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Helo a chroeso i dudalen Tîm Deietegol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro. Rydym yn dîm o Ddeietegwyr Cofrestredig, ymarferwyr cynorthwyol deietegol a gweithwyr cymorth sy’n gweithio o fewn Gwasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydym yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid a sefydliadau o feysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Addysg a’r Trydydd Sector, gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i gefnogi a datblygu mentrau newydd sy’n ymwneud â bwyta’n iach.

Rydym yn defnyddio negeseuon ac argymhellion maeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i geisio lleihau’r dryswch ynghylch bwyd a maeth ac i helpu pobl i ddysgu coginio a bwyta’n iachach ac yn fwy cynaliadwy. Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni megis Sgiliau Maeth am Oes, Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) a Maeth i’ch un Bach (NYLO).

Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?

Website design by Celf Creative

Skip to content