Prosiectau bwyd cymunedol

Dysgwch fwy am y prosiectau bwyd cymunedol a gynhelir yn eich ardal chi.

Cyfarfodydd Bwyd am Oes

Mae sesiynau Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn weithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n defnyddio bwyd i gysylltu pobl o bob oed a chefndir. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan ni yma

Prosiectau Manwerthu Amgen

Mae Prosiectau Manwerthu Amgen yn gwneud bwyd a bwyta’n iach yn fwy fforddiadwy ac yn haws i bobl, a hynny mewn ffordd gynaliadwy er budd cymunedau lleol.

Mae nifer o’r prosiectau hyn ar draws Caerdydd a’r Fro ac maent oll gweithio mewn ffyrdd ychydig yn wahanol i’w gilydd.

Rydym ni fel tîm yn gweithio mewn partneriaeth â’r prosiectau hyn, ac yn eu cefnogi gyda hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes.

Women Connect First

Prosiect Corff Iach, Meddwch Iach. Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda Women Connect First (WCF) i ddarparu’r wybodaeth maeth sy’n gyfredol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gefnogi menywod a’u teuluoedd o gymunedau BAME i fod yn iach.

Rydym yn darparu cyrsiau Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2 ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yng Nghymru. Gallant drosglwyddo’r wybodaeth a sgiliau maeth i’r cymunedau y maent yn eu cefnogi, ac mae modd iddynt ddod yn diwtor i ddarparu ystod o gyrsiau maeth Lefel 1 megis Dechrau Coginio, Bwyd Doeth am Oes a Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol.

Rydym yn cefnogi cyflwyniad ystod o weithgareddau i deuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol, rhai sy’n ennyn diddordeb plant mewn maeth a pharatoi bwyd iach.

Rydym yn sicrhau bod y dysgu’n digwydd mewn modd sy’n sensitif i ddiwylliannau gwahanol, gan ennyn diddordeb dysgwyr a chroesawu cyfranogwyr o bob cefndir. Mae ein rhaglenni yn grymuso cymunedau i ddysgu sgiliau newydd ac i ddatblygu eu gwybodaeth am faeth. Yn ddiweddar, rydym wedi gweithio’n agos gyda Woman Connect First wrth iddynt addasu i bandemig Covid-19 a pharhau i ddarparu eu rhaglenni maeth gan ddefnyddio dulliau ar-lein.

Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?

Website design by Celf Creative

Skip to content