Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd

Croeso i dudalen Tîm Dieteg Iechyd y Cyhoedd BIPBC. Rydym yn dîm pwrpasol o Ddeietegwyr Cofrestredig, Ymarferwyr Iechyd, Ymarferwyr Cynorthwyol a Gweithwyr Cymorth Deietegol a gyflogir gan wasanaeth Dieteteg BIPBC. Rydym yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, yr awdurdod lleol ac addysg, sefydliadau cymunedol lleol a’r sector gwirfoddol.

Rydym yn defnyddio ein sgiliau a’n profiad unigryw i ddehongli gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ar bolisïau a chanllawiau perthnasol ac yn ei droi’n wybodaeth ymarferol y gall y cyhoedd a grwpiau cymunedol ei ddefnyddio er budd eu hiechyd a’u lles maeth.

Rydym yn canolbwyntio ar

  • Gyfleu negeseuon iechyd cyhoeddus allweddol am faeth
  • Darparu cyrsiau/addysg achrededig wedi’u safoni ar fwyd a maeth
  • Cefnogi’r gwaith o ddarparu bwyd a diod iach mewn lleoliadau cymunedol

Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?

Website design by Celf Creative

Skip to content