Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd
Helo a chroeso i dudalen Tîm Deietegol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym yn dîm o Ddeietegwyr Cofrestredig ac ymarferwyr cynorthwyol deietegol sy’n gweithio o fewn Gwasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid a sefydliadau o feysydd Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Addysg a’r Trydydd Sector, gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i gefnogi a datblygu mentrau newydd sy’n ymwneud â bwyta’n iach.
Rydym yn dehongli gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ar bolisïau a chanllawiau perthnasol ac yn ei droi’n wybodaeth ymarferol y gall y cyhoedd a grwpiau cymunedol ei defnyddio er budd eu hiechyd a’u lles maeth. Mae llawer o’n gwaith yn mynd i’r afael â chamsyniadau ynghylch bwyd a maeth, gan helpu ein cymunedau i gynllunio, i goginio ac i fwyta prydau iach a chytbwys gan ystyried cynaliadwyedd.
Rydym yn canolbwyntio ar
- Gyfleu negeseuon iechyd cyhoeddus allweddol am faeth.
- Darparu cyrsiau/ addysg achrededig wedi’u safoni ar fwyd a maeth.
- Cefnogi’r gwaith o ddarparu bwyd a diod iach mewn lleoliadau cymunedol.
Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?
Cliciwch ar yr ardal lle rydych yn byw i weld beth sy’n digwydd eich ardal chi