Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Helo a chroeso i Dîm Sgiliau Maeth am Oes Bae Abertawe.

Rydym yn dîm bach o Ddeietegwyr Cofrestredig, un Maethegydd Cofrestredig a staff Cymorth Deietegol. Rydym yn rhan o wasanaeth Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ar hyn o bryd mae gennym hefyd gytundeb lefel gwasanaeth i gefnogi ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill a’r cyhoedd i rymuso pobl i wneud dewisiadau iach o ran bwyd.

Ein nod yw cefnogi ystod eang o weithwyr cymunedol, gan gynnwys y rhai o fewn sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, i hyrwyddo bwyta’n iach ac i ymgorffori sgiliau bwyd a maeth yn eu gwaith, a thrwy hynny wella iechyd a lles cymunedau.

Mae gennym amrywiaeth o raglenni ar gyfer pob cyfnod o fywyd, o feichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar, hyd at oedolion hŷn a grwpiau agored i niwed.  Mae hyn yn cynnwys rhaglenni hyfforddi Sgiliau Maeth am Oes, Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) a Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur ar

Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?

Website design by Celf Creative

Skip to content