Mae Dietegydd Iechyd y Cyhoedd yn annog menywod beichiog a’r rhai sy’n ceisio beichiogi i sicrhau eu bod yn cael digon o asid ffolig, a hynny’n dilyn pryderon bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar allu teuluoedd i gael fitaminau.
Lansiwyd prosiect lleol gan Andrea Basu a’i chydweithwyr yn adran ddeieteg Maelor Wrecsam fis diwethaf, gyda’r nod o hwyluso mynediad at gynllun Cychwyn Iach, sef cynllun cenedlaethol i gynnig fitaminau am ddim i deuluoedd cymwys yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae Andrea bellach yn gweithio i wella ymwybyddiaeth ba mor bwysig ydyw i famau gymryd y swm cywir o asid ffolig.
Dylai menywod beichiog a’r rhai sy’n ceisio beichiogi gymryd atchwanegiadau dyddiol sy’n cynnwys 400 microgram o asid ffolig, a hynny cyn ac yn ystod beichiogrwydd.
Dywedodd Andrea: “Cynghorir menywod sy’n cynllunio beichiogrwydd a’r rhai sy’n feichiog i gymryd atchwanegiad asid ffolig yn ddyddiol, ond er hynny ‘dyw llawer o fenywod ddim yn cymryd yr atchwanegiadau asid ffolig yn ystod beichiogrwydd, er bod hawl i’w derbyn yn rhad ac am ddim mewn rhai achosion”.
“Bydwragedd neu Ymwelwyr Iechyd sy’n dweud wrth fenywod a’u teuluoedd am y fitaminau a argymhellir ac am y cynllun Cychwyn Iach, ond rydyn ni’n gwybod bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar allu teuluoedd i gael gafael ar y fitaminau.
“Mae angen asid ffolig er mwyn creu deunydd genetig (DNA) o fewn pob un o gelloedd y corff.
“Gallai cael digon o’r fitamin hwn yng nghamau cynnar beichiogrwydd helpu i leihau’r risg o ddatblygu namau asgwrn cefn fel spina bifida.
“Argymhellir i fenywod beichiog gymryd atchwanegiad yn ogystal â bwyta bwydydd sy’n cynnwys digon o asid ffolig, fel llysiau deiliog gwyrdd, a bwydydd sydd â fitaminau wedi’u hychwanegu, fel grawnfwydydd brecwast, er mwyn sicrhau eu bod yn cael digon bob dydd.
“Mae asid ffolig hefyd yn gweithio gyda fitamin B12 i helpu i ffurfio celloedd gwaed coch iach sy’n cario ocsigen o amgylch y corff.”
Mae fitaminau Cychwyn Iach yn ddelfrydol i famau beichiog gan eu bod yn cynnwys y swm cywir o asid ffolig a fitamin D er mwyn helpu i adeiladu a chynnal esgyrn iach.
Mae’r fitaminau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i fenywod cymwys yn y fferyllfeydd canlynol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Gellir mynd â thalebau Cychwyn Iach yn uniongyrchol i unrhyw un o’r fferyllfeydd hyn.
Fferyllfeydd Rowlands Wrecsam ym Mrynteg, Cefn Mawr, Chapel Street, Hightown, Johnstown, a St Georges Crescent, a Fferyllfeydd Rowlands Sir y Fflint ym Mwcle, y Fflint, Treffynnon (Coleshill), Queensferry a Fferyllfeydd Morrison’s yng Nghei Connah a Saltney.
Ychwanegodd Andrea: “I’r menywod sydd ddim yn gymwys i dderbyn fitaminau Cychwyn Iach am ddim, mae’n dal i fod yn bwysig iawn eu bod yn cymryd ychwanegion asid ffolig, ac maen nhw ar gael i’w prynu mewn llawer iawn o fferyllfeydd ac archfarchnadoedd.”
Mae’r cynllun Cychwyn Iach hefyd yn rhoi talebau bwyd wythnosol i deuluoedd cymwys, ac mae modd eu gwario ar ffrwythau a llysiau, boed yn rhai ffres, wedi’u rhewi neu mewn tuniau, ar gorbys a ffacbys sydd wedi’u sychu neu mewn tuniau, ac ar laeth. Hefyd, ar ddiferion fitaminau i fabanod a phlant.
I weld a ydych chi neu’ch teulu yn gymwys i dderbyn y talebau ewch i