Mae disgyblion Ysgol Gynradd Brynteg, Wrecsam a’u rhieni, neu eu neiniau a’u teidiau wedi cymryd rhan mewn cwrs coginio arloesol a ddatblygwyd gan dîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Addasiad o Dewch i Goginio, cwrs arobryn o Ogledd Cymru yw Dewch i Goginio gyda’ch Plentyn. Mae’n galluogi plant pedair a phum mlwydd oed i weithio ochr yn ochr â rhiant, gofalwr, nain neu daid i feithrin gwybodaeth gynnar am fwyd, maeth a sgiliau coginio ymarferol a hynny yn amgylchedd yr ysgol.
Dywedodd Sarah Powell-Jones, Cynorthwyydd Deieteg sy’n cyd-arwain y cyrsiau: “Mae wedi bod yn wych gweithio gyda rhieni, neiniau a theidiau a’u plant yn yr ysgol. Mae’r rhieni, y neiniau a’r teidiau yn ogystal â’r plant wedi dysgu cymaint yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf.
“Mae’r plant wedi dysgu am hylendid bwyd a diogelwch yn y gegin, sut i gynnwys mwy o lysiau a ffrwythau yn eu prydau bwyd, ac wedi edrych ar sut i leihau siwgr yn eu prydau brecwast a chinio. Mae’r rhieni, y neiniau a’r teidiau wedi dysgu am y pynciau hyn gyda’r plant ac wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol yn canolbwyntio ar y Canllaw Bwyta’n Dda, bwydydd sy’n cynnwys braster, ffeibr, siwgr a halen, darllen labeli, addasu ryseitiau, siopa’n ddoeth a chynllunio bwydlenni.”
Mae’r cwrs yn annog plant i fwynhau cymryd rhan wrth baratoi prydau bwyd i’r teulu ac i archwilio a rhoi cynnig ar flasu bwydydd newydd. Mae gan bob sesiwn thema am faeth, er enghraifft ‘pump y dydd’ neu frecwast a bocs bwyd iachus. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda stori ac yna mae cyfle i blant a rhieni ddewis o amrywiaeth o weithgareddau hwyliog yn ogystal â choginio a blasu bwyd gyda’i gilydd.
Dywedodd Rachel Roberts, Cynorthwyydd Deieteg sydd hefyd yn cyd-arwain y cwrs: “Mae’r sesiynau wedi bod yn llawn o weithgareddau ac mae pawb wedi ymgysylltu â ni ar bob cyfle. Rydyn ni’n credu bod y cwrs hwn yn un arbennig gan ei fod yn rhoi cyfle i rieni/neiniau a theidiau/gofalwyr ddod i’r ysgol a gweithio gyda’u plentyn am ychydig o oriau bob wythnos. Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed y teuluoedd yn sgwrsio am y gwahaniaeth mae’r cwrs yn ei wneud, a’r hyn maent yn ei newid neu’n rhoi cynnig arno yn eu cartrefi bob wythnos.”
Mae’r grŵp o blant, rhieni, neiniau a theidiau yn Ysgol Gynradd Brynteg, Wrecsam, ymysg y grwpiau cyntaf o deuluoedd i gymryd rhan yn y cwrs.
Dywedodd Rachel Connell, Pennaeth Ysgol Gynradd Brynteg: “Mae’r rhaglen Dewch i Goginio wedi rhoi cyfle arbennig i’r plant iau a’u rhieni weithio gyda’i gilydd a chreu prydau iach. Mae’r adborth gan y plant a’u rhieni wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Roedd y sesiynau’n hwyl ac erbyn hyn, maent wedi magu mwy o hyder, gwybodaeth a sgiliau. Maen nhw’n edrych ymlaen at goginio’r prydau eto gartref.”
Bydd y cwrs Dewch i Goginio Gyda’ch Plentyn yn cael ei gynnal mewn dwy ysgol gynradd arall yn Wrecsam a Sir y Fflint y mis hwn ac mae cynlluniau i gyflwyno’r cwrs i ysgolion cynradd eraill ledled Gogledd Cymru yn ystod 2023 a thu hwnt. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus y Bwrdd Iechyd. Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)