Pobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn elwa o gynllun maeth

Mae plant mewn meithrinfeydd yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn cael budd o gynllun maeth sydd wedi’i ddatblygu a’i ddarparu gan ddeietegwyr.

Mae’r ddwy feithrinfa bellach wedi derbyn ei gwobr arfer gorau Boliau Bach, sy’n rhoi cydnabyddiaeth i’r lleoliadau hynny sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant ac sydd â bwydlenni a pholisïau bwyd sy’n bodloni canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddarparu bwyd a diod ar gyfer y blynyddoedd cynnar.

Dywedodd Beverley Fisher, Dietegydd Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn: “Mae agweddau o ran dewis bwyd yn datblygu pan fo plant yn ifanc, ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at arferion bwyta oedolion ac iechyd cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae amgylcheddau cyn-ysgol yn lleoedd delfrydol i gyflwyno plant i fwydydd iach, gan fod plant rhwng dwy a phedair oed yn fwy tebygol o dderbyn bwydydd a blasau newydd o gymharu â phlant hŷn.

“Ein nod yw cefnogi lleoliadau lleol i sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawsaf i blant Gogledd Cymru.”

Dywedodd Donna Maria Ojemeyi, perchennog Meithrinfa Hen Ysgol ym Mhorthmadog, fod y fwydlen iachach wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda’r plant.

Dywedodd: “Mae’r plant wrth eu boddau â bwydlen y feithrinfa, rydym yn paratoi popeth o’r newydd ac yn sicrhau eu bod yn cael pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.

“Rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan ddeietegwyr y Bwrdd Iechyd, maen nhw wedi dod lawr i’n gweld ni, i wirio’r fwydlen ac i drafod syniadau, sydd wedi bod o gymorth mawr.

“Mae’r rhaglen Boliau Bach wedi gwneud i mi sylweddoli beth yn union sydd yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta, fel lefelau halen a siwgr.

“Mae cael y wybodaeth a’r gefnogaeth ychwanegol hon gan y deietegwyr wedi ein helpu i greu bwydlen sy’n darparu’r maeth y mae plant ifanc ei angen, bwydlen sy’n cynnwys bwydydd fel pysgod olewog – pethau sydd weithiau’n gallu bod yn anodd perswadio plant i’w bwyta.”

Yn ôl Sioned Hughes, perchennog meithrinfa Siwgr Plwm, mae sefydlu eu gardd lysiau eu hunain wedi annog y plant i roi cynnig ar fwydydd newydd.

Dywedodd: “Mae ganddon ni ein gardd lysiau ein hunain lle gall y plant fynd i godi llysiau, maen nhw’n arbennig o hoff o’r courgettes!

“Erbyn hyn mae amser bwyd yn fwy cyffrous o lawer iddyn nhw, gan eu bod nhw’n cael gweld o ble mae rhywfaint o’r bwyd maen nhw’n ei fwyta yn dod, a chan eu bod wedi bod yn eu hel nhw eu hunain.

“Mae’r rhaglen Boliau Bach yn wych, rydyn ni wedi dysgu cymaint o’r cwrs a byddem yn annog meithrinfeydd eraill ar draws yr ardal i gymryd rhan ynddo.

“Mae mor bwysig hyrwyddo bwyta’n iach o oed ifanc, roedden ni’n ffodus o gael cefnogaeth gan ddeietegwyr y bwrdd iechyd a chan Carla Desmond yng Nghyngor Ynys Môn i sicrhau ein bod yn gallu paratoi bwydlen iach ardderchog i’n plant.”

Dywedodd Beverley bod yr ymroddiad a welodd i ddarparu’r safon uchaf o faeth i blant y ddwy feithrinfa hyn wedi gwneud argraff arni.

“Mae’n bleser gweithio gyda meithrinfeydd sy’n ymroi i ddarparu’r safonau maeth uchaf ar gyfer iechyd a lles plant, ac mae gennym nifer cynyddol o leoliadau ag achrediad Boliau Bach ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.

“Rwy’n annog staff meithrin, gwarchodwyr plant ac arweinwyr cylchoedd chwarae i fanteisio ar ein hyfforddiant ac i ystyried ceisio ennill tystysgrif arfer gorau Boliau Bach,” ychwanegodd.

Website design by Celf Creative

Skip to content