Mae plant PORTHMADOG wedi elwa o fenter newydd sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.
Yn y llun ar y dde: Plant Meithrinfa Hen Ysgol Porthmadog gyda pherchennog y feithrinfa Donna Maria Ojemeyi (canol), sydd wedi derbyn eu tystysgrif Arfer Gorau Boliau Bach
Mae plant mewn meithrinfeydd yng Ngwynedd bellach yn defnyddio cynllun maeth sydd wedi’i ddatblygu a’i ddarparu gan ddeietegwyr.
Bu Meithrinfa Hen Ysgol ym Mhorthmadog yn rhan o raglen Boliau Bach sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r rhai sy’n gofalu am blant cyn oed ysgol i ddarparu prydau a byrbrydau maethlon sy’n cefnogi twf a datblygiad iach.
Mae’r feithrinfa bellach wedi derbyn ei gwobr arfer gorau Boliau Bach, sy’n rhoi cydnabyddiaeth i’r lleoliadau hynny sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant ac sydd â bwydlenni a pholisïau bwyd sy’n bodloni canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddarparu bwyd a diod ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
Dywedodd Beverley Fisher, dietegydd iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn: “Mae agweddau o ran dewis bwyd yn datblygu pan fo plant yn ifanc, ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at arferion bwyta oedolion ac iechyd cenedlaethau’r dyfodol.
“Mae amgylcheddau cyn-ysgol yn lleoedd delfrydol i gyflwyno plant i fwydydd iach, gan fod plant rhwng dwy a phedair oed yn fwy tebygol o dderbyn bwydydd a blasau newydd o gymharu â phlant hŷn.
“Ein nod yw cefnogi lleoliadau lleol i sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawsaf i blant Gogledd Cymru.”
Dywedodd Donna Maria Ojemeyi, perchennog Meithrinfa Hen Ysgol ym Mhorthmadog, fod y fwydlen iachach wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda’r plant.
Dywedodd: “Mae’r plant wrth eu boddau â bwydlen y feithrinfa, rydyn ni’n paratoi popeth ‘o scratch’ ac yn sicrhau eu bod yn cael pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd.
“Rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan ddeietegwyr y bwrdd iechyd, maen nhw wedi dod lawr i’n gweld ni, i wirio’r fwydlen ac i drafod syniadau, sydd wedi bod o gymorth mawr.
“Mae’r rhaglen Boliau Bach wedi gwneud i mi sylweddoli beth yn union sydd yn y bwyd rydyn ni’n ei fwyta, fel lefelau halen a siwgr.
“Mae cael y wybodaeth a’r gefnogaeth ychwanegol hon gan y deietegwyr wedi ein helpu i greu bwydlen sy’n darparu’r maeth y mae plant ifanc ei angen, bwydlen sy’n cynnwys bwydydd fel pysgod olewog – pethau sy’n gallu bod yn anodd perswadio plant i’w bwyta.”