Rhaglen GIG rhad ac am ddim yn helpu pobl ym Mhowys i golli pwysau

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn annog pobl sydd â BMI o 25 neu uwch i gofrestru ar gyfer rhaglen rheoli pwysau ar-lein.

Mae Bwyd Doeth am Oes – a arweinir gan weithwyr cymorth deietegol – yn rhaglen naw wythnos sy’n rhan o Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd Nicola Evans, 51 oed, Llanfair-ym-Muallt, ar y cwrs ym mis Chwefror ar ôl iddi gael diagnosis o ddiabetes:

“Roedd fy neietegydd wedi ei argymell, a rhaid dweud ei fod wedi bod yn wych. Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n deall maeth, ond rydw i wedi dysgu cymaint. Pan fyddwch chi ar ddeiet, rydych chi’n aml yn clywed pobl yn sôn am dwyllo neu bechu, ond mae Bwyd Doeth am Oes yn canolbwyntio ar fwyta’n synhwyrol, ac mae popeth yn dderbyniol os yw’n gymesur.

“Rydw i hefyd wedi dechrau gwneud Soffa i 5K y GIG dair gwaith yr wythnos, ac rydw i wedi colli mwy na dwy stôn ers i mi ddechrau’r rhaglen Bwyd Doeth am Oes.”

Mae colli pwysau wedi cael effaith enfawr ar ei iechyd:

“Pan ges fy mhrawf gwaed diwethaf roedd fy lefel siwgr wedi gostwng 10 pwynt. Mae wedi dychwelyd i’w lefel cyn-diabetig ac mae fy mhwysau gwaed wedi gostwng hefyd. Fy nod yn awr yw gwrthdroi’r diabetes. Rydw i eisiau colli dwy stôn a bod yn faint 14 eto.

“Mae Bwyd Doeth am Oes yn eich galluogi i drafod pethau gyda phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa. Maen nhw’n gwybod beth rydych chi’n mynd drwyddo, a hyd yn oed ar ôl gorffen y rhaglen, rydyn ni’n dal i gadw mewn cysylltiad. Rydw i hefyd yn mynychu’r grŵp galw heibio bob wythnos os yw’n gyfleus. Byddwn yn bendant yn ei argymell i unrhyw un sy’n cael trafferth gyda’u pwysau. Roedd yn wych ac rwy’n awyddus i helpu eraill nawr.”

Eglurodd Karen Wilson, Dietegydd Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Addysgu Powys:

“Drwy ganolbwyntio ar elfen ymddygiadol arferion pobl, gallwn gefnogi pobl i wneud newidiadau cynaliadwy sy’n arwain at fuddion iechyd hirdymor, heb iddyn nhw deimlo fel eu bod ar eu colled, sef y peth sy’n aml yn arwain at agwedd ‘y cwbl neu ddim’ wrth geisio colli pwysau.

“Mae’r rhaglen yn rhedeg am naw wythnos, ond rydyn ni’n cynnig cefnogaeth barhaus ymhell ar ôl i’r sesiynau ddod i ben.”

Mae ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru yn egluro sut y gallwn ni fyw bywyd iachach. Drwy wneud nifer o ddewisiadau o ran ein ffyrdd o fyw, megis bwyta’n dda, bod yn egnïol, a diogelu ein lles meddyliol, rydyn ni’n fwy tebygol o fyw’n hirach ac yn llai tebygol o ddatblygu afiechydon a chyflyrau iechyd difrifol.

Gall oedolion ym Mhowys sydd â BMI uwch na 25 hunangyfeirio er mwyn ymuno â’r rhaglen Bwyd Doeth am Oes ym Mhowys. Caiff ei gynnal ar-lein a gallwch gael gafael ar gymorth technoleg ddigidol os byddwch ei angen.

Os hoffech ddysgu mwy am golli pwysau mewn ffordd iach, am fod yn fwy egnïol, ac am newid arferion bwyta a goresgyn rhwystrau, ewch i: www.pthb.nhs.wales/find/foodwise

Website design by Celf Creative

Skip to content