Bwyd Doeth am Oes yn ysbrydoli Busnes Bwyd Caribïaidd

Mae dyn o’r Drenewydd wedi cael ei ysbrydoli i golli pwysau ac i sefydlu busnes bwyd Caribïaidd newydd o ganlyniad i raglen rheoli pwysau gan GIG Cymru o’r enw ‘Bwyd Doeth am Oes’.

Roedd Johnal Simpson newydd symud i’r Drenewydd o Dde Cymru pan ddechreuodd y cyfnod clo:

“Dros y pedair blynedd diwethaf, anaml y bu fy mherthynas i a bwyd yn un iach. Gan fy mod yn byw ar fy mhen fy hun, doedd gen i ‘mo’r cymhelliant i gael tri phryd iawn y dydd, ac fel arfer byddwn yn bwyta gyda’r nos heb gael brecwast na chinio cyn hynny.” Meddai Johnal. “Mae’n hawdd mynd i mewn i’r rhigol honno. Daeth bwyd tecawê, bwyd sothach a gorfwyta yn gyffredin”.

“Dros y blynyddoedd diwethaf roeddwn yn bwyta fy ffordd at drawiad ar y galon, y gallai neb ddweud mai hunanladdiad oedd e, dyna oedd fy meddylfryd. Gyda diffyg ymarfer corff a minnau’n mynd yn fwy a mwy ynysig, cyn hir ces ddiagnosis o ddiabetes math dau. Roedd yn rhaid i bethau newid. Diolch byth, gyda chefnogaeth fy meddyg teulu lleol a’r gwasanaethau iechyd meddwl yma yn y Drenewydd, teimlais o’r diwedd fod rhywun yn gwrando ac yn barod i helpu. Gyda newid meddyginiaeth, rydw i wedi cael adfywiad.”

Cafodd Johnal ei gyfeirio at y rhaglen Bwyd Doeth am Oes gan ei nyrs diabetes, mae’n gwrs naw wythnos sy’n cael ei redeg dros y we gan weithwyr cymorth deietegol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Mae wedi agor fy llygaid i werth maeth a phwysigrwydd deiet cytbwys. Rydw i’n colli pwysau’n gyson. Dw i wedi newid bara gwyn a phasta gwyn am rai gwenith cyflawn. Rydw i wedi rhoi’r gorau i yfed te a choffi ac rwy’n bwyta cymaint mwy o ffrwythau a llysiau. Rwy’n teimlo’n llawer gwell amdanaf i fy hun,” meddai Johnal. “Pan ges i fy mhrofi ddiwethaf, roedd fy lefelau siwgr wedi gostwng, ac mae hynny’n gam i’r cyfeiriad cywir.”

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i fod yn rhan o’r cwrs Bwyd Doeth am Oes cyntaf a gynhaliwyd ar-lein. Mae’n sesiwn grŵp ac roedden ni gyd yn dod ymlaen yn dda â’n gilydd, gan rannu awgrymiadau a syniadau ac roedden ni’n cefnogi’n gilydd tra’n cydnabod ein bod yn atebol. Mae wedi bod yn hollol wych. Roedd y gweithwyr cymorth deietegol yn hynod o ddyfeisgar. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy’n awyddus i gael rhywfaint o help i golli pwysau ac i wella eu gwybodaeth deietegol,” esboniodd.

Cymaint oedd effaith Bwyd Doeth am Oes ar Johnal y mae wedi aildanio ei awydd i ddechrau ei fusnes bwyd ei hun:

“Mae fy Nhad yn dod o Jamaica a ches i fy magu ar fwyd Caribïaidd. Penderfynais ddod â’r blasau hyn i’r Drenewydd. Bu Bwyd Doeth am Oes yn gymorth i roi mwy o hyder i mi.”

Bydd yr Hummingbird Caribbean Food Truck yn dechrau gwerthu danteithion Caribïaidd yn y Drenewydd yn ddiweddarach y mis hwn.

Eglurodd Karen Wilson, Dietegydd Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Addysgu Powys:

“Drwy ganolbwyntio ar elfen ymddygiadol arferion pobl, gallwn eich cefnogi i wneud newidiadau cynaliadwy sy’n arwain at fuddion iechyd hirdymor, heb iddyn nhw deimlo’u bod ar eu colled, sef y peth sy’n aml yn arwain at agwedd ‘y cyfan neu ddim’ wrth geisio colli pwysau.’

“Mae’r rhaglen yn rhedeg am naw wythnos, ond rydyn ni’n cynnig cefnogaeth barhaus ymhell ar ôl i’r sesiynau ddod i ben.”

Mae ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru yn egluro sut y gallwn ni fyw bywyd iachach. Drwy wneud nifer o ddewisiadau o ran ein ffyrdd o fyw, fel bwyta’n dda, bod yn egnïol, a gwarchod ein lles meddyliol, rydyn ni’n fwy tebygol o fyw’n hirach ac yn llai tebygol o ddatblygu afiechydon a chyflyrau iechyd difrifol.

Gall unrhyw un ym Mhowys sydd â BMI uwch na 25 hunangyfeirio er mwyn ymuno â’r rhaglen Bwyd Doeth am Oes ym Mhowys. Caiff ei gynnal ar-lein a gallwch gael gafael ar gymorth technoleg ddigidol os byddwch ei angen.

Os hoffech ddysgu mwy am golli pwysau mewn ffordd iach, am fod yn fwy egnïol, ac am newid arferion bwyta a goresgyn rhwystrau, ewch i: www.pthb.nhs.wales/find/foodwise

Website design by Celf Creative

Skip to content