Dewch i Goginio gyda’ch Plentyn
Mae Dewch i Goginio gyda’ch Plentyn yn gwrs coginio ymarferol a gyflwynir mewn lleoliadau Ysgolion Cynradd. Nod y cwrs hwn yw gwella gwybodaeth a sgiliau er mwyn galluogi rhieni, neiniau a theidiau, gofalwyr, a phlant 4-5 oed i fwyta’n dda ac i baratoi prydau iach gartref. Mae’n annog plant i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi prydau teuluol ac i roi cynnig ar fwydydd newydd. Mae thema i bob sesiwn ar y cwrs, gan ddechrau gyda stori ac yna cyfres o weithgareddau hwyliog a difyr i blant a rhieni.
Mae’n addas ar gyfer rhieni, neiniau a theidiau, a’r rhai sy’n gofalu am blant 4-5 oed sy’n awyddus i wella eu sgiliau coginio hwy a’r plant, ac iddynt ddysgu mwy am faeth. Gall oedolion sy’n cymryd rhan ddewis cwblhau achrediad Dewch i Goginio ac ennill 3 credyd ar Lefel 1.
Trosolwg o’r Cwrs
- Wedi’i achredu gan Agored Cymru ar Lefel 1, mae’r cwrs hwn yn cynnwys sesiwn 3 awr bob wythnos am 6 wythnos, ond gellir ystyried fformatau amgen.
- Bydd y cyfranogwyr yn dewis pa ryseitiau yr hoffent eu paratoi fel grŵp, ac yn trafod pa wybodaeth a sgiliau yr hoffent eu datblygu.
- Mae gweithgareddau’r cwrs wedi’u cynllunio i annog plant i fod yn agored i roi cynnig ar fwydydd newydd ac i adeiladu eu gwybodaeth am ddiogelwch bwyd, am ffrwythau a llysiau, ac am fwydydd sydd â llawer o siwgr. Gwneir cysylltiadau â chwricwlwm yr ysgol ar gyfer yr ystod oedran hon.
- Ar gyfer achredu, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cwblhau portffolio o daflenni gwaith. Mae’r rhain yn darparu tystiolaeth bod negeseuon maeth wedi’u deall a bod amcanion dysgu’r cwrs wedi’u cyflawni.
- Gall gweithwyr cymunedol ddod yn hwyluswyr Dewch i Goginio gyda’ch Plentyn drwy gwblhau’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol Lefel 2.
- Ar ôl cwblhau Sesiwn Hyfforddi Hwyluswyr, a ddarperir gan Dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd, bydd yr hwyluswyr newydd yn derbyn pecyn cymorth i gefnogi eu gwaith. Mae’r pecyn yn cynnwys llawlyfr hwylusydd, llyfrau coginio A5 ac adnodd siart A3.
- Mae hefyd yn ofynnol i hwyluswyr Dewch i Goginio gwblhau ardystiad Hylendid Diogelwch Bwyd Lefel 2 yn ogystal â chymhwyster ‘Hyfforddi’r hyfforddwr’ Lefel 3 neu Gymhwyster Addysg a Hyfforddiant Oedolion City and Guilds Lefel 3.
Pynciau dan sylw:
Sesiwn 0
Cofrestru
Sesiwn 1
Hylendid Bwyd
Sesiwn 2
Pump y Dydd (Llysiau)
Sesiwn 3
Pump y Dydd (Ffrwythau)
Sesiwn 4
Siwgr amser Brecwast
Sesiwn 5
Siwgr mewn Diodydd a Phecynnau Cinio
Sesiwn 6
Gweithgaredd Egnïol a gynhelir mewn partneriaeth â gwasanaethau hamdden Aura
* Noder – Bydd yr oedolion hefyd yn trafod y pynciau o fewn rhaglen achrededig Dewch i Goginio
Mae’r cwrs wedi cael ymateb hynod gadarnhaol gan rieni sydd wedi cymryd rhan.
Adborth gan gyfranogwyr
“Mae’r cwrs hwn wedi helpu i mi sylweddoli i faint o siwgr rydyn ni’n ei fwyta bob dydd. Mae’r gemau dyfalu faint o siwgr wir wedi gyrru’r hoelen i’w lle.’
‘Rwy’n fwy gofalus yn y siopau ac wedi dechrau prynu grawnfwydydd iach…
Rydw i hefyd wedi dysgu am faint prydau, ac mae hynny wedi fy helpu i roi’r bwydydd gorau i’m teulu pan fyddwn yn cael ein prydau. Mae’r cwrs hwn yn bendant wedi helpu i newid fy meddwl.’
“Mae coginio a dysgu gyda fy mab wedi bod yn gyfle gwych, ac rwy’n gwybod cymaint y mae yntau wedi mwynhau’r cwrs hwn hefyd. Rydym bellach yn cymryd mwy o amser i goginio gyda’n gilydd, ac mae’n haws o lawer i mi egluro am fwydydd ‘iach’ a bwydydd sydd ‘ddim mor iach’. Mae wedi ennyn ei ddiddordeb e hefyd, ac mae’n gofyn mwy o gwestiynau e.e. Ydy’r bwyd hwn yn dda i mi? Oes yna lawer o siwgr yn hwn?… Ac ar ben hynny, mae gen i gyfaill coginio bach yn y gegin!’
Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?
Cliciwch ar yr ardal lle rydych yn byw i weld beth sy’n digwydd eich ardal chi